°¬˛ćAƬ

Grantiau i Sefydliadau

Mae dau fath o grant ar gael i sefydliadau:

  • Ardoll Arbennig Aelodau
  • Grantiau Eglwys Cymru

Ardoll Arbennig Aelodau

Mae Grantiau Ardoll Arbennig Aelodau ar gael gan Aelodau Etholedig ac maent ar gael i unigolion a sefydliadau gwirfoddol, cymunedol ac elusennol. Cysylltwch â'ch aelod lleol os ydych chi am wneud cais am grant.

Isod fe welwch ddolen i holl Aelodau Etholedig y Cyngor

/cy/cyngor/cynghorwyr-a-phwyllgorau/cyfeiriadur-cynghorwyr/ 

Grantiau Eglwys Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ yn derbyn dyraniad blynyddol y gellir ei ddyfarnu i helpu tuag at hyrwyddo:

  • Addysg a Chrefydd
  • Lleddfu tlodi
  • Celf, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Pwrpasau eraill sy'n fuddiol i'r gymuned, fel y'u diffinnir gan Gronfa Eglwys Cymru

Pa lefel o grant sydd ar gael?

Nid oes terfyn grant uchaf ond yn gyffredinol mae'r dyfarniadau o fewn yr ystod ÂŁ100 - ÂŁ500.

Pa mor aml yr ystyrir ceisiadau?

Ystyrir ceisiadau unwaith y flwyddyn (dyddiad cau 31 Awst), dim ond un cais y gallwch ei wneud bob blwyddyn ariannol.

Sut i wneud cais

I wneud cais am gyllid, cyfeiriwch at y nodiadau canllaw a chwblhewch ffurflen gais.

Gwybodaeth Gyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â:

Mr John Griffin
Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ
Adran Adnoddau
Y Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6DN 

Rhif Tel. 01495 364839

E-bost: grants2@blaenau-gwent.gov.uk