Beth yw caniatâd masnachu ar y stryd?
Diffinnir masnachu stryd fel gwerthu neu ddangos neu gynnig ar werth unrhyw eitem (yn cynnwys unrhyw beth byw) mewn stryd. Caiff pob ffordd, troetffordd, tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo heb daliad (fel y'i diffinnir gan adran 329 Deddf Priffyrdd 1980) ac ardal wasanaeth yn yr ardal eu dynodi yn 'strydoedd' ar gyfer dibenion y ddeddf.
Pa ddeddfwriaeth sy'n rheoli'r cais hwn?
Mae'r Cyngor yn rheoli masnachu stryd yn ardal °¬²æAƬ drwy gyhoeddi caniatâd i fasnachwyr sy'n gweithredu yn yr ardal yn unol ag Atodlen 4 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.
Mae mabwysiadu'r ddeddfwriaeth hon yn galluogi'r Cyngor i reoli masnachu stryd drwy gymeradwyo'r safle, y cerbyd/uned a ddefnyddir, y nwyddau a werthir a'r oriau masnachu. Gellir hefyd osod amodau ar ganiatâd i ddiogelu'r cyhoedd a chyfyngu niwsans sŵn.
Pwy all wneud cais?
Gall unrhyw un 18 oed neu drosodd wneud cais
Beth yw'r broses gais?
Dim ond pan dderbynnir ffurflen gais wedi'i llenwi, ffi a dogfennau perthnasol y caiff caniatâd ei ystyried. Byddir wedyn yn ymgynghori gydag adrannau a sefydliadau eraill ac, os yn briodol, rhoddir caniatâd am uchafswm cyfnod o un flwyddyn. Gellid codi dirwo o hyd at £1,000 os ceir person yn euog o fasnachu stryd heb ganiatâd,
A allaf wneud cais ar-lein?
Faint yw'r gost?
Newydd |
£682 |
Adnewyddu |
£631 |
Blaendal cychwynnol (na ellir ei ad-dalu) (wedi'i gynnwys yn y ffioedd uchod) |
£100 |
Trosglwyddiad |
£64 |
Amrywiad - mân |
£46 |
Amrywiad - llawn |
£63 |
Caniatâd Dros Dro - 28 diwrnod |
£72 |
Pa mor hir fydd yn ei gymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig?
Bydd y Cyngor yn trin eich cais cyn gynted ag sydd modd fodd bynnag dylech gysylltu â'r Cyngor os nad ydych wedi clywed o fewn 14 diwrnod o anfon eich cais. Nid oes caniatâd dealledig yn weithredol h.y. ni ddylech dybio y cytunwyd i'ch os nad ydych wedi clywed gan y Cyngor o fewn 14 diwrnod.
A allaf wneud cais os gwrthodir fy nghais?
Gallwch apelio i Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol y Cyngor
Cwynion defnyddwyr
Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu
Manylion cyswllt
Ffôn: 01495 369700
E-bost: licensing@blaenau-gwent.gov.uk