°¬²æAƬ

Hysbysiad Preifatrwydd Cynlluniau Ffoaduriaid Wcráin

Hysbysiad Preifatrwydd Cynlluniau Ffoaduriaid Wcráin

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd pan ddefnyddiwch ein gwasanaethau. Cynlluniwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn i roi gwybodaeth i chi am y data a ddaliwn amdanoch, sut y’i defnyddiwn, eich hawliau yng nghyswllt hynny a’r mesurau diogelu sydd yn eu lle i’w warchod.

Rheolydd Data

Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ
Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 8UW

Os dymunwch godi mater o gonsyrn am sut y cafodd eich data personol ei drin, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Swyddog Diogelu Data drwy ddefnyddio’r manylion islaw:

Swyddfa Diogelu Data:
Steve Berry
01495 355080
E-bost: dataprotection@blaenau-gwent.gov.uk