°¬²æAƬ

Gwasanaeth gostyngiadau Amddiffyn

Mae’r Gwasanaeth Gostyngiadau Amddiffyn ar gael i bersonél ac aelodau wrth gefn y Lluoedd Arfog, gwŷr/gwragedd/partneriaid (personél y presennol), Cyn aelodau, Gweision Sifil y Weinyddiaeth Amddiffyn, Gweddwon Rhyfel/Gwasanaeth, teuluoedd mewn profedigaeth, Lluoedd Cadet (16+) a phersonél NATO sy’n gweithio yn y DU.

Ystyrir y gwasanaeth Gostyngiadau yn rhan allweddol o werthfawrogiad y genedl o Gymuned y Lluoedd Arfog, ac mae’n rhan bwysig o ddatblygu Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog a Chyfamod y Lluoedd Arfog.

Cerdyn Braint Amddiffyn

Mae’r Cerdyn Braint Amddiffyn yn gerdyn y gall aelodau o’r lluoedd arfog ei ddefnyddio mewn siopau, tai bwyta a lleoliadau a derbyn gostyngiad. Gellir hefyd ei ddefnyddio ar-lein.

Mae’r cerdyn yn ddilys am 5 mlynedd ac yn costio £4.99. Mae cwmnïau newydd yn cael eu hychwanegu bob dydd i’r gwasanaeth.

Rhaglen Gwasanaeth  Ceir Gostyngol Amddiffyn (Ceir DDS)

Gallai Ceir DDS helpu ein lluoedd arfog, cyn aelodau'r lluoedd arfog, a'u teuluoedd arbed hyd at £7,170, gydag arbediad o £3,250 ar bob car a brynir ar gyfartaledd.

Mae’r cynigion unigryw hyn yn cael eu cefnogi gan 11 o brif gwmnïau'r diwydiant ceir mewn ymdrech i gefnogi'r sawl sy'n gwasanaethu dros eu gwlad.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn e-bostiwch contact@defencediscountservice.co.uk neu ffoniwch 01509 233 446.

Mae modd hefyd cysylltu â’r gwasanaeth drwy’r post i’r Gwasanaeth Gostyngiadau Amddiffyn, Blwch Post 10180, Loughborough, Leicestershire. LE11 9HN.