°¬²æAƬ

Hawliadau Yswiriant yn erbyn y Cyngor

Mae ein tîm Yswiriant yn cydlynu trin pob hawliad yswiriant a wneir gan neu yn erbyn y Cyngor. Gallwch wneud hawliad am iawndal os cawsoch eich anafu neu os cafodd eich eiddo ei niweidio ac y credwch y bu’r Cyngor yn esgeulus.

Nid yw gwneud hawliad yn golygu y cewch iawndal oherwydd nid yw’r Cyngor ar fai bob amser. Weithiau gall digwyddiadau anffodus ddigwydd, ond nis oes neb ar fai. Bydd y gyfraith yn penderfynu os dylech gael iawndal am eich colled, difrod neu anaf.

Sut i wneud yr Hawliad?

Cam 1:  mae’n rhaid i chi roi adroddiad i Priffyrdd am y digwyddiad

Cam 2: gallwch wedyn wneud yr hawliad

Bydd angen i chi wneud nodiadau manwl o’r dilynol os yn berthnasol er mwyn llenwi y ffurflen hawliad:

  • Crynodeb o’r ffeithiau yr ydych yn seilio’r hawliad arno
  • Cofnodi amser a dyddiad y digwyddiad
  • Nodi amodau’r tywydd
  • Enw’r ffordd a disgrifiad manwl o’r lleoliad yn cynnwys tirnodau a nodweddion unigryw
  • Cadw unrhyw dderbynebau ar gyfer colledion yn deillio o’r digwyddiad
  • Nodi unrhyw ymweliadau yn y gorffennol neu’r dyfodol i ysbyty neu feddygfa teulu ar gyfer hawliadau anaf personol
  • Cofnodi manylion llawn unrhyw dystion
  • Rhif digwyddiad heddlu
  • Ffotograffau – gweler y canllawiau

Sut mae gwneud hawliad?

Ffyrdd eraill i hawlio

Gwneud hawliad yn eich Hyb Lleol.

Beth ddylwn i ddisgwyl?

  • Mae eich ffurflen hawliad wedi ei llenwi yn ein cyrraedd ni
  • Caiff eich hawliad ei baratoi a’i drosglwyddo i Gallagher Bassett, ein Trefnwyr Hawliadau
  • Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o’ch hawliad o fewn 21 diwrnod
  • Byddwch yn cael amserlen i gyrraedd penderfyniad
  • Byddwch yn derbyn rhif cyfeirnod a manylion cyswllt ar gyfer eich Trefnydd Hawliad
  • Gall Gallagher Bassett gysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth
  • Byddwch yn derbyn eich penderfyniad yn ysgrifenedig
  • Fel arfer gwneir penderfyniad mewn 90 diwrnod ac mae’n dechrau o’r diwrnod cydnabyddiaeth

Sut mae rhoi tystiolaeth ffotograffig?

Bydd angen i chi lanlwytho neu anfon eich ffotograffau gyda’r ffurflen gais. Gweler y cyngor dilynol er mwyn atal oedi gyda’ch hawliad:

  • Mae’n rhaid i ffotograffau ddangos y diffyg yn cynnwys yr ardal yn ymyl ac unrhyw dirnodau unigryw
  • Os yw’n ddiogel gwneud hynny, tynnwch ffotograff o’r diffyg yr honnir ei fod yn gyfrifol am y digwyddiad
  • Os yw’n ddiogel gwneud hynny, gallwch ddangos maint y diffyg drwy roi darn o arian yn ei ymyl
  • Ffotograffau o’r difrod
  • Y dyddiad y tynnwy d y ffotograff neu ffotograffau gyda dyddiadau
  • Gallwch ddal anfon ffotograff os yw’r diffyg eisoes wedi ei atgyweirio, bydd hyn yn ein helpu i ddynodi’r union leoliad

Twyll

Gellir trosglwyddo unrhyw hawliad y canfyddir ei fod wedi ei nodi neu ei chwyddo’n dwyllodrus ar unrhyw adeg yn yr hawliad i’r Heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Galon a gall fod yn destun erlyniad troseddol.