Mae Able Touch Joinery Holdings Ltd, cwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf yn arbenigo mewn gwasanaethau saernïaeth, gwaith saer, ac adeiladu wedi derbyn Grant Datblygu Busnes gan Gyngor °¬²æAƬ.
Bydd y grant, sy'n dod i gyfanswm o £26,963.60, yn cael ei ddefnyddio i wella diogelwch a chynhyrchiant gweithdy'r cwmni trwy gaffael systemau awyru newydd a gwyntyllau echdynnu llwch.
Mae gan Able Touch Joinery Ltd, sydd wedi’i leoli yn Nhredegar, bron i dri degawd o brofiad ac mae wedi ennill enw da am ragoriaeth a dibynadwyedd, yn enwedig yn y farchnad arbenigol o saernïaeth bwrpasol ar gyfer adeiladau treftadaeth. Mae'r cwmni hefyd yn gwasanaethu bariau, bwytai, siopau, a chleientiaid preswyl, gan ddarparu gwaith adeiladu o ansawdd uchel a saernïaeth wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion penodol pob prosiect.
Mae'r buddsoddiad mewn systemau awyru newydd a gwyntyllau echdynnu llwch yn hanfodol ar gyfer cynnal safonau uchel o grefftwaith tra'n sicrhau amgylchedd gwaith diogel i weithwyr. Mae'r gwelliannau hyn yn arbennig o allweddol wrth i'r cwmni anelu at gwrdd â'r galw cynyddol am ei wasanaethau, yn enwedig ar ôl dyfarnu contract sylweddol yn ymwneud ag adfer adeilad rhestredig treftadaeth mawr, y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB).
Mynegodd Stephen Williams, Cyfarwyddwr Able Touch Joinery Ltd, ei ddiolchgarwch am y gefnogaeth a dderbyniwyd. Meddai: "Bydd y grant hwn yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n cleientiaid tra'n sicrhau diogelwch a lles ein gweithwyr. Rydym yn gyffrous am y cyfleoedd a ddaw yn sgil y buddsoddiad hwn ac yn edrych ymlaen at gyfrannu ymhellach i'r gymuned leol".
Meddai’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd ac Adfywio:
“Mae Able Touch Joinery yn gwmni hirsefydlog hynod bwysig yn Nhredegar, ac rwy’n falch iawn o weld eu bod yn parhau i flaenoriaethu diogelwch a lles eu gweithlu wrth gynhyrchu’r gwaith o ansawdd uchel a welwn mewn cymaint o’n hadeiladau lleol yn gyson.â€
Ariennir Grant Datblygu Busnes °¬²æAƬ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.