°¬²æAƬ

Angen llywodraethwyr ysgol

Mae gan ychydig o ysgolion leoedd gwag sydd angen eu llenwi cyn gynted ag sy'n bosibl, ond mae'r Adran Addysg hefyd eisiau datblygu cronfa ddata o bobl sy'n addas ar gyfer rôl llywodraethwr os daw mwy o leoedd yn wag.   

Nid oes angen profiad blaenorol o addysg, yr hyn sy'n bwysig yw angerdd dros helpu plant a phobl ifanc i gael y budd mwyaf o'u haddysg ac i gyflawni eu nod. Byddai sgiliau a phrofiad o ystod o feysydd megis busnes,  adnoddau dynol, cyllid a dadansoddi data yn ddymunol a byddai croeso neilltuol iddynt.  

Mae llywodraethwyr ysgol yn rhan bwysig o'r gwaith o godi safonau addysg. Gweithiant yn agos gyda'r ysgolion a hefyd y Cyngor i fonitro perfformiad a gosod targedau. Nid yw'n rhaid i chi fod â phlentyn yn yr ysgol i ddod yn llywodraethwr yno.  

Mae swyddi gwag ar hyn o bryd ar gyfer llywodraethwyr yn yr ysgolion dilynol: 

  • Ysgol Gynradd Sofrydd  
  • Ysgol Gynradd Beaufort Hill
  • Ysgol Gynradd Willowtown
  • Ysgol Gynradd Pen-y-Cwm
  • Ysgol Gynradd Coed-y-Garn
  • Ysgol Gynradd Ystruth
  • Ysgol Gynradd Glanhowy
  • Ysgol Gynradd Georgetown
  • Ysgol Gyfun Brynmawr
  • Cymuned Addysgu Abertyleri

Bydd yr holl lywodraethwyr newydd yn derbyn mynediad i hyfforddiant a chefnogaeth briodol i'w helpu i gyflawni eu rôl.  

I gael mwy o wybodaeth neu ffurflen gais cysylltwch â Julie Parry yn Cefnogaeth Llywodraethwyr, Gwasanaeth Cyflawni Addysg, TÅ· Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.  Ffôn: 01443-863242 neu e-bost: Julie.parry@sewaleseas.org.uk. 

Gallwch hefyd ddod o hyd i’r ffurflen gais ar-lein ar - http://www.blaenau-gwent.gov.uk/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/llywodraethwyr-ysgolion/?L=1