Mae dyletswydd ar Gyngor °¬²æAƬ i gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i arwain y defnydd o dir a datblygiad o fewn y Fwrdeistref. Mae’r CDLl ar gael tan 2021 ac mae Cynllun diwygiedig yn cael ei baratoi a fydd yn gosod canllawiau ar gyfer datblygu tir o fewn °¬²æAƬ tan 2033.
Mae Cyngor °¬²æAƬ yn galw ar ddatblygwyr, tirfeddianwyr a’r cyhoedd i gyflwyno safleoedd a allai gael eu cynnwys ar gyfer datblygiadau newydd, ail-ddatblygiadau neu i’w gwarchod fel rhan o CDLl Diwygiedig. Gallai hyn fod ar gyfer unrhyw ddefnydd tir gan gynnwys preswylio, cyflogaeth, addysg, hamdden, cyfleusterau cymunedol eraill, manwerthiant, twristiaeth, teithwyr a sipswn, mwyngloddiau a gwastraff a thechnoleg ynni adnewyddol.
Ni ellir gwarantu y bydd pob safle a awgrymir ar hyn o bryd yn mynd rhagddo. Serch hynny, bydd eu cyflwyno yn galluogi’r Cyngor i asesu addasrwydd ac argaeledd yr ardaloedd hyn. Gellir wedyn ddefnyddio’r wybodaeth hon wrth lunio strategaeth ar gyfer datblygu safleoedd yn y dyfodol ar hyd a lled y Fwrdeistref.
I enwebu safle ar gyfer ystyriaeth, rhaid cyflwyno cynllun a ffurflen gyflwyno safle. Mae copïau o’r ffurflen ar gael gan y Tîm Cynlluniau Datblygu wedi’i leoli yn y Ganolfan Ddinesig – Glyn Ebwy, yn Llys yr Eingion – Abertyleri, ym mhob llyfrgell leol neu ar wefan ddiwygiedig y Cynllun Datblygu Lleol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno safleoedd yw Dydd Iau, Ionawr 24, 2019. Mae swyddogion ar gael i helpu gyda chwblhau’r ffurflenni.
Am ragor o wybodaeth, cysyllter â’r Tîm Cynlluniau Datblygu ar 01495 355538 neu ebostiwch planningpolicy@blaenau-gwent.gov.uk