Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n rhoi cyfle i weithwyr ieuenctid a phobl ifanc i ddathlu llwyddiannau ac effeithiau gwaith ieuenctid.
Mae'n gyfle i ddangos fod mwy i waith ieuenctid na dim ond clybiau ieuenctid. Ym Mlaenau Gwent mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc 11-24 oed, drwy weithwyr ieuenctid mewn ysgolion, canolfannau ieuenctid, yn y gymuned ac ar y strydoedd, gan roi cyfle i gymryd rhan, goresgyn rhwystrau, cefnogaeth pontio a helpu pobl ifanc i baratoi am hyfforddiant a chyflogaeth; mae pethau eraill yn cynnwys cynllun Dug Caeredin; cyflwyno hyfforddiant gydag achrediad yn cynnwys iechyd rhywiol a pherthynas; prosiectau ymddygiad gwrthgymdeithasol Dyfodol Cadarnhaol, grŵp golygyddol a gwefan BYG, rhaglen gwirfoddoli Cynrychiolwyr Ifanc, grŵp Llysgenhadon Ifanc, Nosweithiau Open 4 Youth, rhaglenni gwyliau haf, Dyddiau Gwener Pêl-droed a llawer mwy!
Bydd pob clwb ieuenctid ar agor ac yn rhad ac am ddim i ddathlu'r wythnos. Mae'r rhain yn:
• Canolfan Ieuenctid Abertyleri - dydd Mercher a dydd Iau, 6pm - 8pm
• Clwb Ieuenctid Cwm (Canolfan Ieuenctid Cwm) - dydd Llun a dydd Mercher, 6pm - 8pm
• Caban Pren Hilltop, Glynebwy- Dydd Llun 5.30pm - 7.30pm a dydd Mercher 7.30pm – 9.30pm
Ddydd Mercher 27 Mehefin bydd gweithgareddau antur Dug Caeredin ym Mharc Bryn Bach ar gyfer aelodau clybiau ieuenctid ac ar ddydd Gwener 29 Mehefin bydd digwyddiad galw heibio dathlu'r Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghanolfan Iechyd Abertyleri rhwng 1pm - 3pm.
Bydd trip i barc thema Drayton Manor ddydd Sadwrn 30 Mehefin.
Bydd gweithwyr ieuenctid yn ysgolion uwchradd °¬˛ćAƬ hefyd yn hyrwyddo'r Wythnos Gwaith Ieuenctid.
Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn cymryd rhan yn Nigwyddiad Cenedlaethol Arddangos Gwaith Ieuenctid a gynhelir ar 26 Mehefin yn adeilad y Pierhead, Caerdydd. Caiff 28 o fudiadau gwaith ieuenctid eu cynrychioli yn y digwyddiad a bydd y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn bresennol.
Cynhelir Gwobrau Cenedlaethol Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghaerdydd ar 29 Mehefin. Cafodd Gwasanaeth Ieuenctid °¬˛ćAƬ ei enwebu ac mae ar y rhestr fer allan o gannoedd o geisiadau ac wedi cyrraedd y 3 terfynol - cyhoeddir enwau'r enillwyr ar y noswaith.
I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ieuenctid a gweithgareddau ym Mlaenau Gwent ewch i
http://thebyg.co.uk/en/events/ a /en/resident/schools-learning/youth-services/