°¬²æAƬ

Brechu rhag COVID-19 – Cyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar Frechiadau Atgyfnerthu

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (29/11/2021)

Heddiw, hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cyngor pellach sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Yng ngoleuni’r bygythiad a ddaw yn sgil Omicron, yr amrywiolyn newydd sy’n peri pryder, gofynnwyd i'r JCVI adolygu Rhaglen Frechu COVID-19 y DU yn gyflym.

Gofynnwyd i'r Cyd-bwyllgor ystyried pa newidiadau, os o gwbl, oedd angen eu gwneud i'r rhaglen. Gofynnwyd hefyd iddynt gynghori ar strategaeth i achub bywydau, diogelu'r GIG a lleihau cymaint â phosibl ar nifer yr heintiadau, cyn i unrhyw don Omicron sydd ar y gorwel gyrraedd ei brig.

Mae'r JCVI wedi argymell y dylid cyflymu'r rhaglen frechu drwy ddilyn y camau sydd wedi’u nodi isod: 

  • Mae pob oedolyn sydd dros 18 oed bellach yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu, ond dylid rhoi blaenoriaeth o hyd i oedolion hÅ·n a'r rheini sydd mewn perygl
  • Dylai’r cyfnod cyn y cynigir dos atgyfnerthu gael ei leihau i o leiaf dri mis ar ôl cwblhau’r cwrs sylfaenol
  • Dylai unigolion sydd â system imiwnedd wan sydd wedi cwblhau eu cwrs sylfaenol o dri dos gael cynnig dos atgyfnerthu, gydag o leiaf dri mis rhwng y trydydd dos sylfaenol a'r dos atgyfnerthu, yn unol â’r cyngor clinigol ar yr amseru gorau posibl
  • Ni ddylid gwahaniaethu rhwng y brechlynnau Moderna a Pfizer-BioNTech wrth ddewis pa un i’w ddefnyddio fel rhan o’r rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19. Dangoswyd bod y ddau frechlyn yn cynyddu lefelau gwrthgyrff yn sylweddol pan fyddant yn cael eu cynnig fel dos atgyfnerthu

At hynny, mae’r JCVI yn cynghori, yn amodol ar ystyriaeth briodol gan y timau a fydd yn rhoi’r brechiadau o ba mor ymarferol fydd gwneud hynny, y dylid, fel mesur eilradd, cynnig ail ddos o'r brechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech o leiaf 12 wythnos wedi’r dos cyntaf i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 12 a 15 oed. Gellir lleihau'r bwlch ar gyfer y grŵp hwn (a phobl ifanc 16-17 oed) i o leiaf 8 wythnos rhwng dosau os bydd y data epidemiolegol sy'n dod i’r amlwg yn cefnogi hyn.

Nid yw’n hysbys eto faint o amddiffyniad y bydd y brechlynnau COVID-19 yn ei roi yn erbyn yr amrywiolyn Omicron. Fodd bynnag, teimlai'r JCVI y byddai cyflymu'r rhaglen yn sicrhau bod unigolion yn cael yr amddiffyniad gorau posibl. Drwy ymestyn cymhwysedd a lleihau'r bwlch cyn rhoi brechiad atgyfnerthu, y nod yw lleihau effaith yr amrywiolyn newydd ar y boblogaeth, a hynny cyn inni wynebu ton o heintiadau. Bydd y JCVI yn parhau i fonitro'r sefyllfa wrth i ragor o ddata ddod i’r amlwg.

Byddwn yn parhau i ddilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol, fel yr ydym wedi’i wneud ers dechrau'r pandemig. Rwyf wedi derbyn argymhellion y JCVI, yn unol â gwledydd eraill y DU. Bydd GIG Cymru yn gwneud popeth sy'n angenrheidiol i gynyddu'r capasiti ar gyfer gweithredu'r cyngor hwn.

Bydd pob unigolyn sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu yn cael gwahoddiad awtomatig i apwyntiad pan ddaw ei dro. Dylai'r rhai sydd eisoes wedi cael apwyntiad ar gyfer eu brechiad atgyfnerthu gadw at y dyddiad a'r amser a roddwyd iddynt. Caiff apwyntiadau pawb arall sydd bellach yn gymwys eu trefnu gan eu bwrdd iechyd yn unol â chyngor diweddaraf y JCVI, yn ôl eu hoedran a pha mor agored i niwed ydynt yn glinigol. Nid oes angen ffonio eich bwrdd iechyd na'ch meddyg teulu ynghylch apwyntiad, byddwch yn clywed pan ddaw eich tro. Mae ein timau brechu yn parhau i sicrhau bod y brechlyn priodol ar gael ar yr adeg iawn i bobl wrth iddynt fynd i’w hapwyntiadau.

O ystyried cyngor diweddaraf y JCVI, caiff nifer sylweddol o wahoddiadau i apwyntiadau brechu eu hanfon dros yr wythnosau nesaf. Er mwyn helpu ein GIG, rwy’n gofyn i bobl gadw at yr apwyntiad a gânt lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl i'n gwasanaeth aildrefnu drwy neges destun fynd yn fyw yfory. O ddydd Mercher ymlaen, felly, bydd gennych yr opsiwn i aildrefnu eich apwyntiad drwy neges destun os na allwch gadw at yr apwyntiad a gewch.

Yn awr yn fwy nag erioed, yn sgil bygythiad yr amrywiolyn newydd hwn, mae'n bwysig bod pobl yn dod ymlaen ar gyfer eu hapwyntiadau pan gânt eu galw, yn enwedig y rhai nad ydynt eto wedi manteisio ar eu dos cyntaf. Os nad ydych wedi cael dos cyntaf neu ail ddos, nid yw'n rhy hwyr i gysylltu â'ch bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad. Ni fydd unrhyw un sy'n dewis cael ei frechu yn cael ei adael ar ôl. Gall y timau brechu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a'ch cefnogi wrth gael y brechiad. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau brechu mawr ardaloedd tawel i bobl eistedd wrth aros, ac mae gan lawer ohonynt nyrsys arbenigol hefyd i helpu'r rheini y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Gadewch inni ddiogelu Cymru gyda'n gilydd.