°¬˛ćAƬ

Busnes harddwch Lauren yn cael Kickstart

Mae Lauren Williams, sydd wedi ennill gwobr am ei thriniaethau harddwch, wedi agor busnes newydd i drosglwyddo ei sgiliau i bobl eraill.

Mae Beauty by Lauren yn hyfforddi therapyddion harddwch yn y sgiliau sydd eu hangen i greu eiliau perffaith yn ei chanolfan yng Nghanolfan Arloesedd Glynebwy (EVIC) a gaiff ei redeg gan UKSE, is-gwmni Tata Steel.

Mae'n cynnig cyrsiau pwrpasol i sylfaen gynyddol o gwsmeriaid sydd eisiau manteisio o'i phrofiad.

Cymhwysodd Lauren fel therapydd harddwch chwe mlynedd yn Ă´l yng Ngholeg Glynebwy ac yn y pedair blynedd ddiwethaf mae wedi arbenigo mewn trin eiliau. "Rwyf bob amser wedi mwynhau'r ochr honno o waith harddwch ac roeddwn eisiau trosglwyddo'r sgiliau a'r brwdfrydedd hwnnw ymlaen i bobl eraill, " meddai.

Mae'n credu fod y Ganolfan Arloesedd yn safle rhagorol ar gyfer ei gwaith. "Mae'n rhwydd iawn i fy nghwsmeriaid ei ganfod, ac mae gwesty gerllaw ar gyfer pobl sy'n dod o ymhellach i ffwrdd.

"Mae'r staff yma'n barod iawn i gynorthwyo ac yn gefnogol, ac mae'r cyfleusterau yn dda iawn."

Yn ogystal â chynnig hyfforddiant gan EVIC, bydd Lauren yn darparu ei thriniaethau o'i chartref ym Mrynmawr.

Y llynedd enillodd Lauren wobr genedlaethol pan enillodd deitl Therapydd Harddwch Cymru y Flwyddyn yng Ngwobrau Cymreig y Sefydliad Trin Gwallt.

Derbyniodd y busnes grant o ÂŁ900 o'r rhaglen Kickstart Plus, a gaiff ei redeg gan UKSE a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ.

Dywedodd Gail Hannam, Gweinyddydd EVIC:

"Rydym yn falch iawn fod Beauty by Lauren wedi dewis y Ganolfan Hyfforddiant i gyflwyno ei hyfforddiant. Mae'n dda y bydd yn trosglwyddo'r sgiliau hyn ymlaen ac yn helpu eraill i ddatblygu eu gyrfaoedd."

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ:

"Mae °¬˛ćAƬ yn falch iawn i gefnogi busnes arall sy'n ehangu ym Mlaenau Gwent.

"Drwy raglen Kickstart Plus, gallodd Lauren ddefnyddio ei sgiliau a'i busnes presennol i sefydlu cyfleusterau hyfforddiant i bobl eraill, enghraifft o dwf busnes yn yr ardal. Bydd y therapydd harddwch gwobrwyol yn trosglwyddo ei sgiliau ac yn helpu i gefnogi'r economi lleol ac efallai greu rhagolygon swyddi eraill yn y dyfodol. Dymunaf bob llwyddiant iddi."

Hyb Busnes °¬˛ćAƬ https://www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk/