Caiff y cynllun £98m ei ymestyn ar gyfer 2017-18 gyda chynllun parhaol newydd yn dod i rym o 2018 ymlaen.
Dan y system bresennol, bydd safleoedd busnes gyda gwerth trethiannol o hyd at £6,000 yn derbyn rhyddhad o 100% tra bydd rhai gyda gwerth trethiannol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad ar sail tapr o 100% i sero. Caiff y trefniadau hyn eu hymestyn i 2017-2018".
"Roedd gostwng trethi i fusnesau bach yn un o'n hymrwymiadau allweddol yn ein maniffesto", meddai Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol.
"Un o'r ffyrdd mwayf effeithlon y gallwn wneud hyn yw drwy wneud ein cynllun rhyddhad ardrethi busnes bach yn barhaol.
"Gwyddom y gall trethi busnes fod yn gyfran uchel o gostau busnesau bach a dyna pam ein bod eisiau rhoi sicrwydd arnynt y bydd y ffynhonnell hollbwysig yma o gefnogaeth yn parhau yn 2017-18.
"Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn ystyried sut y gallwn wella'r system ar gyfer 2018 fel ein bod yn targedu cymorth i fusnesau bach yn well a, gan weithredu ar yr adborth a gawsom, sicrhau fod y lleiafrif bach sy'n ceisio osgoi talu trethi yn talu eu cyfran deg."