Mae camau olaf gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau’r Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu (HWRC) newydd. Ymwelodd Cynghorwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ, cydweithwyr o Wastesavers a’r contractwr Jim Davies Civil Engineering Cyf â’r safle i weld y cynnydd. Disgwylir sgipiau a chynwysyddion ar y safle yn y dyfodol agos ac mae gwaith terfynol megis arwyddion, seilwaith technoleg gwybodaeth a cheisiadau am drwyddedau yn mynd rhagddynt.
Disgwylir y bydd y safle’n barod ac yn weithredol erbyn dechrau 2021. Bydd preswylwyr yn cael gwybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau cyn y caiff y safle ei agor.
Hwn fydd yr ail safle yn y fwrdeistref sirol a bydd ar agor i breswylwyr am chwe diwrnod yr wythnos.
Bydd y ganolfan ailgylchu newydd yn ased bwysig i bobl ym Mlaenau Gwent. Cafodd ei hadeiladu’n bwrpasol i alluogi preswylwyr i ailgylchu ac ailddefnyddio eu sbwriel yn ddiogel ac yn effeithiol. Bydd y safle yn cynnig dewis llawn o wasanaethau ailgylchu i gymryd eitemau fel soffas, nwyddau gwyn fel rhewgelloedd, oergelloedd a pheiriannau golchi, celfi rhydd-sefyll fel byrddau, cadeiriau a chypyrddau dillad, ynghyd â charpedi.
Bydd ganddo hefyd gyfleuster ail-defnyddio celfi a weithredir gan Wastesavers, lle gall preswylwyr gyfrannu eitemau sydd mewn cyflwr da a heb ddiffygion fel y gall rhywun arall eu prynu a’u hailddefnyddio.
Cynlluniwyd y ganolfan i roi mynediad rhwydd gyda ffordd fynedfa hir i ddefnyddwyr HWRC i atal ciwio ar y briffordd, yn sylweddol mwy o leoedd parcio ac mae’r cynllun yn cynnwys gofodau i’r anabl, mynediad i gerddwyr a mannau gwefru trydan ar gyfer ceir. Cafodd cyfleuster signalau traffig newydd ei weithredu yng nghyffordd A467/Roseheyworth.
Darparwyd cyllid ar gyfer y datblygiad gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymunedol:
“Rwy’n falch fod y gwaith ar y safle modern a hygyrch yma’n mynd rhagddo’n dda a bod y gwaith adeiladu bron wedi’i orffen. Bydd y safle yn ei gwneud hyd yn oed yn haws i’n preswylwyr i ailgylchu mwy o wastraff eu cartrefi. Gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth ac mae pob un person sy’n ailgylchu eu gwastraff yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, drwy arbed ynni a gostwng allyriadau nwyon tÅ· gwydr. Yn gynharach eleni fe wnaethom gadarnhau fod °¬²æAƬ wedi sicrhau targed ailgylchu 65.31%, sy’n uwch na tharged Llywodraeth Cymru o 64%. Bydd y targed yn awr yn cynyddu i 70% ac mae’r cyfleuster newydd hwn yn rhan o’n strategaeth gwastraff i gynyddu ein targedau ailgylchu.â€
Dywedodd Alun Harries, Rheolwr Elusen Wastesavers:
“Rydym yn falch iawn i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ i greu’r prosiect ailddefnyddio elusennol newydd hwn. Rydym yn siŵr y bydd ‘Y Den’ yn boblogaidd iawn gyda phreswylwyr lleol ac yn helpu’r Cyngor i gyrraedd ei dargedau ailgylchu. Mae’n sicr y bydd Y Den yn rhoi buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i’r gymuned leol. Dylai pob canolfan ailgylchu gael siop fel hyn.â€