Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn ail-agor ei Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC) Cwm Newydd ddydd Mawrth 26 Mai.
Bydd cyfyngiadau ar waith i waredu â llwythi bach o wastraff. Dim ond drwy apwyntiad y gwneir pob ymweliad. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff ymweliadau i’r ganolfan eu rheoli mewn ffordd ddiogel ac wedi’i strwythuro i ddiogelu preswylwyr a gweithwyr ac i gydymffurfio gyda’r cyngor cyfredol ar ymbellhau cymdeithasol.
Er mwyn rheoli agor yr HWRC mewn modd diogel, dim ond ceir a ganiateir. Bydd yn hanfodol archebu ymlaen llaw a bydd angen i breswylwyr ddod â thystiolaeth o’u cyfeiriad gyda nhw. Bydd methiant i wneud hynny yn golygu y gwrthodir mynediad i gerbydau.
Os oes gan breswylwyr neu aelodau eu cartref symptomau o COVID19 neu ar y rhestr gwarchod, ni ddylent ymweld â’r safle.
Bydd manylion llawn sut i drefnu apwyntiad a chanllawiau ar gyfer eich ymweliad ar gael ar wefan y Cyngor :
/cy/preswylwyr/gwastraff-ac-ailgylchu/canolfan-ailgylchu-gwastraff-cartrefi/
Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol yr Amgylchedd Cyngor °¬²æAƬ:
“Drwy gydol y cyfyngiadau ar symud, mae’r Cyngor wedi cynnal â’r holl gasgliadau ymyl palmant yn cynnwys gwasanaethau sbwriel, ailgylchu, gardd a cewynnau/gwastraff hylendid. Felly rydym yn gofyn i breswylwyr ond archebu ymweliad i’r HWRC os yw hynny’n hanfodol ac na fedrwch storio’r eitemau hyn yn ddiogel yn eich cartref neu waredu â nhw drwy’r casgliadau palmant. Fe wnaethom ailgyflwyno casgliadau Gwastraff Swmpus yn ddiweddar a rydym yn annog preswylwyr i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael gwared ag eitemau swmpus.
Mae’r cyfyngiadau ar symud yn parhau yng Nghymru ac mae defnydd heb fod yn hanfodol yn eich rhoi chi, aelodau eraill o’r cyhoedd a’n staff mewn risg o ledaenu’r feirws. Felly dim ond os yw hynny’n hanfodol y dylech ymweld.
Mae manylion llawn sut i drefnu apwyntiad a chanllawiau ar gyfer eich ymweliad ar gael ar wefan y Cyngor www.blaenau-gwent.gov.uk
Byddai’n well gennym i drefnu apwyntiad ar-lein, gan fod ein Canolfan Gyswllt yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar ddarparu cymorth i aelodau mwyaf bregus y gymuned. Os na fedrwch gael mynediad i wasanaethau ar-lein, gofynnir i chi ofyn i berthynas neu gyfaill i archebu slot ar-lein ar eich rhan. Os nad yw hyn yn bosibl, cysylltwch â ni ar 01495 311556.
Diolch i chi am eich amyneddâ€
I Drefnu Apwyntiad
Y ffordd gyflymaf a rhwyddaf i breswylwyr wneud cais am apwyntiad yw drwy borth Fy Ngwasanaethau y Cyngor. Byddwch angen eich manylion mewngofnodi ar gyfer Fy Ngwasanaethau, neu gofrestru am gyfrif tra byddwch ar y sgrin mewngofnodi.
Bydd y broses ar-lein yn eich llywio drwy drefnu slot a gwybodaeth y dylech fod yn gwybod amdani cyn ymweld.
Cliciwch ar y ddolen ddilynol i gael gwybodaeth ychwanegol, cyngor pellach am eich ymweliad ac i drefnu apwyntiad:
/cy/preswylwyr/gwastraff-ac-ailgylchu/canolfan-ailgylchu-gwastraff-cartrefi/
Os na fedrwch gael mynediad i’r system ar-lein, ffoniwch 01495 311556 i drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda.
Amserau agor HWRC Cwm Newydd
Bydd slotiau apwyntiad ar gael rhwng 9am – 6pm, Llun-Sul.
Caiff y safle ei gau ar gyfnodau cyson yn ystod y dydd i alluogi staff y safle i wneud dyletswyddau glanhau angenrheidiol.