Yn Glasgow, ar ddechrau mis Tachwedd 2021, bu arweinwyr o bob rhan o’r byd yn trafod yr argyfwng hinsawdd. Ym Mlaenau Gwent ddechrau mis Tachwedd cafodd Kelvyn Miller, Canolfan Garddio Victoria, ei sbarduno gymaint gan y digwyddiadau hyn fel iddo gysylltu â Thîm yr Amgylchedd Naturiol ym Mlaenau Gwent i wneud gwahaniaeth a chreu gwaddol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o blant ar draws y Sir.
Cyfrannodd Kelvyn gyfanswm o 1,020 o goed cynhenid a gynigiwyd i ysgolion ledled °¬˛ćAƬ, gyda llawer eisoes wedi manteisio ar y cynnig caredig.
Mae gan goed gynifer o fanteision wrth leihau effeithiau newid hinsawdd yn ogystal â’u buddion dydd i ddydd, gan roi cynefinoedd (dail coed derw a ffawydd sydd orau gan ddraenogod ar gyfer adeiladu nythod) a gwella ein hiechyd meddwl. Mae’r coed i gyd yn rhywogaethau cynhenid a chânt eu plannu gan blant o bob ysgol.
Mae’r coed a gyfrannwyd yn gyfuniad o goed cynhenid Prydeinig: Derw Seisnig, Ffawydd, Oestrwydd, Cerddinen, Masarn Maes, Bedw Arian a Bedw Brith.
Mae Kelvyn yn cyfrannu’r coed ac yn eu cludo i ysgolion ledled °¬˛ćAƬ yn rhad ac am ddim.
Dywedodd y Cyng Lee Parsons:
“Mae hwn yn gynllun rhagorol a bydd ymgysylltu gyda phob disgybl ar draws °¬˛ćAƬ yn werthfawr tu hwnt. Bydd y coed yn rhoi cynefin i lawer o’n rhywogaethau cynhenid a gall plannu coed Oestrwydd weld adar tebyg i’r Gylfinbraff yn adsefydlu yn y Fwrdeistref, tra gall coed Cerddinen roi mwyar sydd eu mawr angen ar gyfer ymwelwyr gaeaf tebyg i Caseg y Ddrycin, Asgell Goch ac adar mudol mwy prin tebyg i’r Aden Gwyr."
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Kelvyn am fod mor garedig â darparu coed i’n hysgolion ym Mlaenau Gwent. Mae hwn yn gynllun gwych fydd yn fanteisiol iawn i’n cymunedau a disgyblion am flynyddoedd i ddod," meddai’r Cyng Joanna Collins, Aelod Gweithredol Addysg.
Dywedodd Becky:
“Mae Kelvyn yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom gan ddangos y gwahaniaeth y gall un person ei wneud. Mae’n fraint i mi fod yn rhan o’r prosiect hwn a chefnogi i rannu angerdd a breuddwyd i wneud newid cadarnhaol i ni gyd ym Mlaenau Gwent a thu hwnt’”.