Cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, y bydd ÂŁ7.5m ychwanegol ar gael i helpu busnesau Cymru i gynyddu cydnerthedd er mwyn ymdopi gyda heriau Brexit.
Defnyddir y cyllid i helpu busnesau i fod yn fwy arloesol ac i gydweithio mwy fydd yn helpu i gadw swyddi yng Nghymru ar Ă´l Brexit a marchnata Cymru fel lle gwych i fuddsoddi a gwneud busnes ynddo. Bydd hefyd yn helpu dealltwriaeth Llywodraeth Cymru ei hunan o lif masnach rhwng Cymru a'r byd.
Bydd Grant Cydnerthedd Brexit ar gael i fusnesau ledled Cymru i helpu goresgyn yr heriau uniongyrchol yn ymwneud â Brexit, sy'n cynnwys y beichiau a chymhlethdodau gweinyddol ychwanegol. Fodd bynnag, mae datblygu hyder a sgiliau i gynyddu masnachu y tu mewn a hefyd tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol a gellir defnyddio'r gronfa ychwanegol ar gyfer y dibenion yma.
Ychwanegodd y Cyng David Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economi Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ:
“Mae cymaint o ansicrwydd o amgylch Brexit a bydd y gronfa ychwanegol yma'n helpu llawer o fusnesau ym Mlaenau Gwent gyda'r heriau i ddod. Nid oes neb yn gwybod mewn gwirionedd pa effaith a gaiff gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru, felly mae'n galonogol gwybod y bydd adnoddau ariannol ar gael i helpu ymdoipi gyda'r anhysbys economaidd”.