°¬˛ćAƬ

Cyfarfod eich cymydog busnes

Bu i fusnesau o Dorfaen a °¬˛ćAƬ ynghyd ag aelodau clybiau rhwydweithio busnes llwyddiannus Llais Busnes Torfaen a Rhwydwaith Effaith °¬˛ćAƬ fwynhau noson o rwydweithio ar 9fed Gorffennaf 2019 gyda’r nod o feithrin partneriaethau agosach rhwng y siroedd cyffiniol hyn.

Roedd y digwyddiad, a grĂ«wyd ac a gynhaliwyd gan Economi a Mentergarwch Torfaen ac Uned Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ y cyntaf o’i fath ac fe’i cynhaliwyd yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy.

Manteisiodd mwy na 65 o fusnesau o amrywiol sectorau ar y cyfle i gyflwyno eu busnesau i’w gilydd, am ddim, gyda rhwydweithio anffurfiol ac wedi’i hwyluso, a bwffe.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol ar gyfer yr Economi, Sgiliau ac Adfywio yng Nghyngor Torfaen:

“Roedd yn bleser go iawn mynychu a siarad yn y digwyddiad hwn. Mae meithrin perthnasau busnes ar draws ffiniau sirol yn gam cadarnhaol gwirioneddol tuag at gryfhau ein heconomi lleol. Rwy’n gobeithio mai dim ond y cychwyn yw hyn, gyda chyd-fentrau llwyddiannus a fydd yn helpu i adeiladu a gwneud y mwyaf o’r egni a’r ymroddiad gwych sydd gan fusnesau lleol yn y rhan hon o dde-ddwyrain Cymru.”

Dywedodd Cynghorydd °¬˛ćAƬ David Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygiad Economaidd:

“Roedd y digwyddiad cyfarfod eich cymydog busnes ar gyfer busnesau ym Mlaenau Gwent a Thorfaen, a gynhaliwyd yn y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglyn Ebwy, yn rhoi cyfle i fusnesau lleol gyfarfod cysylltiadau a chyflenwyr newydd. Roedd hefyd yn gyfle i rannu arferion gorau a chadw i fyny gyda datblygiadau gwleidyddol, deddfwriaethol ac economaidd.

Mae hon yn enghraifft mor dda o sut y gall busnesau o fwrdeistrefi cyffiniol gysylltu a gweithio gyda’i gilydd, sydd nid yn unig yn fanteisiol i’r economi lleol ond sydd hefyd yn cryfhau rhwydweithiau busnes yn y rhanbarth”.

I gael rhagor o wybodaeth ar wasanaethau cymorth i fusnesau yn Nhorfaen neu ym Mlaenau Gwent, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Economi a Mentergarwch Torfaen

www.southwalesbusiness.co.uk

Ebost: info@southwalesbusiness.co.uk

Ffoniwch: 01633 648644

°¬˛ćAƬ

www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk

Ebost : business@blaenau-gwent.gov.uk