Fel rhan o Gynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar, mae cyfle tendro wedi dod ar gael i adnewyddu, yn fewnol ac yn allanol, llawr cyntaf rhif 7 Y Cylch, Tredegar, trwy ei gynrychiolydd penodedig Mr Terry Morgan.
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan GwerthwchiGymru a’r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd tendrau yw 12 hanner dydd ar ddydd Gwener, 27 Ebrill 2018. (Cyfeirnod GwerthwchiGymru: MAR246590)
https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru
Mae’n ofynnol i gontractwyr gofrestru eu diddordeb gan ddefnyddio manylion cyswllt y cynrychiolydd penodedig Mr Terry Morgan, sydd i’w gweld ar wefan GwerthwchiGymru dan gyfeirnod MAR246590. Bydd gofyn i gontractwyr sy’n tendro feddu ar brofiad o ymgymryd â phrosiectau adnewyddu ar adeiladau treftadaeth a/neu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.
Mae Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar yn cyfrannu’n gadarnhaol at adfywiad Tredegar trwy sicrhau gwaith atgyweirio ac adfer traddodiadol o safon uchel i adeiladau cymwys yn ardal y Cylch yng nghanol y dref. Bwriedir i gynllun adnewyddu Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar fod yn gatalydd ar gyfer mwy o fuddsoddiad gan y sector preifat a’i nod yw trawsnewid atyniad y dref i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr wrth wella cynaliadwyedd hirdymor.
I gael gwybodaeth am Gynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar, cysylltwch â Ceri Howell ar 01495 353313 neu anfonwch e-bost at tredegarprojects@blaenau-gwent.gov.uk
Ariennir Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw, a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ.