°¬˛ćAƬ

Cyfleoedd Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer Swyddfa Ardal Blaenau a Stryd y Bont, Glynebwy

Yr adeiladau sydd ar gael ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol yw:

  • Swyddfa Ardal Blaenau: Adeilad dau lawr yn cynnwys 406m2 o ofod swyddfa blaenorol. Mae hyn yn cynnwys un swyddfa cynllun agored mawr yng nghefn yr adeilad, yr arferid ei ddefnyddio fel Siambr y Cyngor. Mae'r adeilad wedi'i leoli ar Stryd Fawr Blaenau, NP13 3XD.
  • Swyddfeydd Stryd y Bont: adeilad dau lawr yn cynnwys 1116m2 o ofod swyddfa blaenorol. Mae hyn wedi'i leoli ar Stryd y Bont, Glynebwy NP236EY. 

I gofrestru datganiad diddordeb ffoniwch 01495 353318 neu e-bost mark.howland@blaenau-gwent.gov.uk. 

Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau diddordeb yw dydd Gwener 28 Hydref.