Croesawodd y Cyngor y setliad ariannol gwastad gan Lywodraeth Cymru ar ôl paratoi am ostyngiad pellach mewn cyllid. Fodd bynnag, oherwydd pwysau yn deillio o chwyddiant, costau cyflogau staff, cynnydd contractau a'r galw am wasanaethau, roedd yn dal i fod angen i'r Cyngor ganfod dros £3 miliwn mewn arbedion.
Caiff bron hanner hyn ei gyflawni drwy gynigion ac adolygiadau gwasanaethau mawr a gytunwyd ym mis Ionawr 2018. Gofynnwyd i bob gwasanaeth wedyn gyflwyno arbedion pellach a gafodd eu hystyried gan gynghorwyr heddiw.
Mae'r Gyllideb a osodwyd heddiw yn gwarchod gwasanaethau rheng flaen i'r cyhoedd a miloedd o swyddi sector cyhoeddus. Collir nifer fach o swyddi (24), ynghyd â rhai staff asiantaeth, fodd bynnag ceisir dileu swyddi gwirfoddol a dim ond os nad oes dewis arall y defnyddir dileu swyddi gorfodol.
Dywedodd yr Arweinydd Nigel Daniels eu bod wedi gwrando ar bryderon pobl leol drwy bleidleisio i droi goleuadau stryd ar briffyrdd yn ôl tan ganol nos, drwy gadw'r nifer presennol o batrolau croesiad ysgol mewn ysgolion cynradd y sir a pheidio cyflwyno ffi fach ar gyfer clybiau brecwast ysgol.
Caiff cyllid ysgolion hefyd ei warchod gyda chynghorwyr heddiw yn cymeradwyo trosglwyddo cyllid ychwanegol o £619,000 gan Lywodraeth Cymru yn syth i ysgolion i helpu gyda'r cynnydd mewn cyflogau staff a phrydau ysgol am ddim. Yn ychwanegol, cytunodd y cyngor ar £151,000 pellach o gyllid ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn nifer disgyblion. Mae hyn yn golygu cynnydd o 1.5% mewn cyllid ysgolion.
Cymeradwywyd cynnydd Treth Gyngor o 4.9% - sy'n gyfartal â chynnydd o £1 yr wythnos ar gyfer Band A a chynnydd o £1.15c yr wythnos ar gyfer aelwydydd Band B. Oherwydd y nifer fawr o anheddau yn yr anheddau band is (85%), mewn blynyddoedd blaenorol mae'r hyn mae pobl yn ei dalu am eu Treth Gyngor ar gyfartaledd yn un o'r isaf yng Nghymru. Disgwylir y bydd y cynnydd yn unol â'r cynnydd cyfartalog neu'r cynnydd arfaethedig ar draws Cymru.
Wrth siarad ar ôl cyfarfod arbennig y Cyngor llawn, dywedodd yr Arweinydd Nigel Daniels:
"Gyda'r Llywodraeth yn gorfodi llymder parhaus arnom, mae'n waith anodd sicrhau'r fantol rhwng gwneud yr arbedion gofynnol a chadw'r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer ein cymunedau. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod awdurdodau lleol Cymru yn wynebu heriau sylweddol wrth barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod.
"Credaf fod y Gyllideb a gymeradwywyd gennym heddiw yn un deg a chytbwys. Mae cynghorwyr wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r cynigion am arbedion a gyflwynwyd iddynt ac ni chymerwyd penderfyniadau yn ysgafn. Mae'r Gyllideb a osodwyd yn gwarchod ac yn gwella'r gwasanaethau hynny y dywedodd pobl wrthym sydd bwysicaf iddynt yn ystod ein rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd y llynedd.
"Mae cynnydd yn y Dreth Gyngor yn anochel er mwyn codi'r incwm ychwanegol sydd ei angen i barhau i gyllido gwasanaethau hanfodol a rhai gwasanaethau anstatudol y gwyddom sy'n bwysig i'n preswylwyr megis goleuadau stryd a chadw amgylchedd glân. Dim ond 23c o bob £1 a wariwn ym Mlaenau Gwent a gaiff ei godi drwy'r Dreth Gyngor."
Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud darpariaeth yn y Gyllideb i ddechrau dychwelyd cyllid i'w Gronfeydd Cyffredinol wrth Gefn er mwyn cryfhau ei sefyllfa ariannol yn y dyfodol.