Cytunodd y Cynghorwyr fod angen i'r ffocws wrth symud ymlaen fod ar Addysg; Gwasanaethau Cymdeithasol; Cymunedau Cryf a Gwybodus yn Amgylcheddol; Datblygu Economaidd ac Adfywio a Chyngor Effeithlon. Cytunwyd bod angen i'r Cyngor dargedu ei adnoddau cyfyngedig ar gyflawni'r amcanion yn y cynllun yn ystod y cyfnod hwn o galedi parhaus. Gweithiodd cynghorwyr ac uwch swyddogion gyda'i gilydd ar y Cynllun Corfforaethol, a gafodd gymeradwyaeth drawsbleidiol yng nghyfarfod heddiw o’r Cyngor Llawn. Gweledigaeth graidd y Cynllun Corfforaethol yw: Treftadaeth Falch Cymunedau Cryf Dyfodol Disglair Cyhoeddir adroddiad o berfformiad blynyddol yn erbyn y 5 blaenoriaeth yn flynyddol a bydd y Cyngor yn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd am y gwelliannau sy'n cael eu gwneud. Meddai'r Cynghorydd Nigel Daniels, Arweinydd Cyngor °¬˛ćAƬ:
"Mae'r Cynllun Corfforaethol newydd hwn yn ddogfen bwysig i'r Cyngor fynd rhagddo wrth i ni nodi beth yw ein blaenoriaethau a lle byddwn yn targedu'r adnoddau sydd gennym yn erbyn cefndir o galedi parhaus. Rwy'n credu bod y blaenoriaethau yn y cynllun hwn yn cyd-fynd yn llawn â'r hyn y mae pobl leol wedi ei ddweud wrthym yn ystod ein sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd, yn enwedig eu bod am gael cymunedau cryf a glân ac maen nhw am weld ein heconomi yn tyfu er lles cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaethau wrth inni weithio i wella safonau yn ein hysgolion fel bod ein holl blant a phobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial ac rydym yn parhau i ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rydym yn falch iawn ac yn amddiffyn ein treftadaeth a'n diwydiant cyfoethog yma ym Mlaenau Gwent ac adlewyrchir hyn yn y Cynllun a'n gweledigaeth graidd, ond mae angen inni symud ymlaen a chynnal y technolegau sy'n datblygu a fydd yn tyfu ein heconomi a gwneud ein cymunedau yn fwy ffyniannus."
Gallwch nawr weld y Cynllun Corfforaethol yma.