Gwnaeth cynghorwyr y penderfyniad ar Ă´l ystyried adroddiad yn rhoi manylion i ddiffyg ysgubol cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau ymhlith dros 1,200 o bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar. Roeddent wedi cytuno'n flaenorol i adolygu'r polisi gyda golwg ar wneud arbedion i'r gwasanaeth er mwyn cynilo arian.
Cynhaliodd y Gyfarwyddiaeth Addysg ymgynghoriad helaeth, yn cynnwys nifer o sesiynau galw heibio lle gwnaethant gwrdd wyneb yn wyneb gyda 442 o bobl a hefyd gysylltu â phlant a phobl ifanc drwy ddau ddigwyddiad gweithdy. Fe wnaeth y Cyngor hefyd dderbyn sylwadau drwy arolwg ar-lein, drwy e-bost neu drwy lythyr.
Dywedodd y Cyng Clive Meredith, Aelod Gweithredol Addysg y Cyngor yn dilyn y cyfarfod:
"Fel rhan o'n cynllunio ariannol, cytunodd pob cynghorydd yn yr awdurdod i adolygu unrhyw feysydd sy'n sylweddol ac yn gyson dros y gyllideb. Fe wnaethom ymroi i edrych ar arbedion posibl o fewn y polisi cyfredol ar Gludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol ac Ôl-16, ond ni fyddem yn gwneud unrhyw benderfyniadau nes byddem wedi siarad gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
"Roeddem yn falch y rhoddodd cynifer o bobl amser i rannu eu barn gyda ni. Mae hyn yn dangos nerth y teimlad o fewn y gymuned leol ar y mater. Rydym yn gyngor sy'n gwrando ac wrth wneud ein penderfyniad heddiw rydym yn wirioneddol wedi gwrando ar lais ysgubol yr holl randdeiliaid, ond yn arbennig rieni, a ddywedodd fod ganddynt bryderon go iawn am yr effaith negyddol y byddai hyn yn ei gael ar blant a phobl ifanc °¬˛ćAƬ.
"Ni allwn barhau i wthio adfywio a sgiliau fel blaenoriaeth i'r Cyngor hwn ac yna bleidleisio i ddiddymu grantiau teithio Ă´l-16, byddai'n gamgymeriad moesol. Ar gyfer cludiant Rhwng y Cartref a'r Ysgol byddai'r rhan fwyaf o ddysgwyr yr effeithid arnynt yn byw mewn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig ac nid ydym yn barod i achosi pryder i'r rhieni hynny am sut mae eu plant yn mynd i'r ysgol ac adre bob dydd.
"Nid yw pleidlais heddiw mewn unrhyw ffordd yn llacio'r baich ariannol ar yr awdurdod a bydd yn awr angen canfod yr arbedion hyn mewn man arall. Rydym eisoes wedi gwneud penderfyniadau ariannol anodd ac mae mwy o benderfyniadau anodd i ddod, ond nid oeddem yn teimlo y gallem gefnogi'r adroddiad hwn heddiw."