Mae Pwyllgor Gweithredol y Cyngor heddiw wedi croesawu adroddiad yn amlinellu ei gynnydd ar ddatgarboneiddio.
Cafodd Bwrdd datgarboneiddio dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr y dasg o gyflwyno’r strategaeth bwysig a gall ddweud y gwnaed cynnydd da ar ei 9 faes targed allweddol ar gyfer canolbwyntio arnynt flwyddyn ar ôl i’r Cyngor gytuno ar ei gynllun ffurfiol. Mae’r broses yn seiliedig ar arfer da gan PCAN (Rhwydwaith Gweithredu Hinsawdd Seiliedig ar Le) ym Mhrifysgol Leeds.
Y maes cyntaf o ffocws yw Trafnidiaeth Uniongyrchol sy’n ffurfio 8% o allyriadau carbon gros y Cyngor. Mae gan y Cyngor yn awr gynllun gweithredu clir ar gyfer y maes hwn ac mae rhai o’r prif gamau gweithredu yn cynnwys:
• Datblygu cynllun i reoli a newid fflyd cerbydau’r Cyngor gyda cherbydau allyriad isel iawn (ULEV).
• Datblygu a rhoi adnoddau i ddepot carbon isel i weithredu gwasanaethau rheng flaen ohono.
• Ystyried sut i ostwng trefniadau cymudo a theithio i staff ymhellach. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau teithio llesol ac e-wefru ar gyfer beiciau, er enghraifft.
• Annog staff i newid i ULEV a datblygu seilwaith codi tâl i gefnogi hyn.
Y cam nesaf fydd canolbwyntio ar y meysydd targed eraill yn cynnwys Trydan, Gwresogi a Chaffael (Gweithiau) sydd gyda’i gilydd yn ffurfio 22% o allyriadau carbon gros y Cyngor. Bydd y dull gweithredu hwn yn ei gwneud yn bosibl datblygu cynlluniau manwl i ostwng ôl-troed carbon y Cyngor ymhellach yn y blynyddoedd i ddod yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor °¬²æAƬ:
‘Rwy’n hynod falch fod yr adroddiad hwn yn dangos y gwaith ardderchog a’r cynnydd cyflym a wnaeth y Cyngor wrth hyrwyddo ei ‘Gynllun Datgarboneiddio’. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod y Cynllun hwn yn un o’r darnau pwysicaf o waith i’r Cyngor a sut y byddwn yn gweithio i gyflawni ein huchelgais o ddod yn sefydliad carbon-niwtral. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr ac yn falch i fod yn rhan o’r gwaith hwn.
“Mae hon yn broblem fyd-eang ac mae’n hollol hanfodol ein bod yn gweithredu yn awr i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol ac mae’n rhaid i’n cynllunio a gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol yn adlewyrchu hyn.’
Nodiadau a Chefndir:
1. Fe wnaeth y Cyngor fabwysiadu ei gynllun datgarboneiddio yn ffurfiol a datgan argyfwng hinsawdd ar 24 Medi 2020.
2. Mae’r cynllun yn nodi sut y gallai’r Cyngor ostwng allyriadau’r sefydliad mewn naw maes:
• Trafnidiaeth Uniongyrchol
• Trafnidiaeth a Gomisiynwyd
•&²Ô²ú²õ±è;³§±ð³¦·É±ð²õ³Ù°ù¾±²¹»å
• Caffael Nwyddau
• Caffael Gwasanaethau
• Caffael Gweithiau
•&²Ô²ú²õ±è;°Õ°ù²â»å²¹²Ô
•&²Ô²ú²õ±è;³Ò·É°ù±ð²õ
•&²Ô²ú²õ±è;³Ò·É²¹²õ³Ù°ù²¹´Ú´Ú
3. Cynulliad Newid Hinsawdd Dinasyddion °¬²æAƬ oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Fe’i cynhaliwyd ym mis Mawrth 2021 gan ddod â phreswylwyr o ardal °¬²æAƬ i ystyried y cwestiwn: ‘Beth ddylem ni ei wneud ym Mlaenau Gwent i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd mewn ffordd sy’n deg ac yn gwella safonau byw i bawb?’
Mynychodd 44 o gyfranogwyr o’r ardal gyfarfod y Cynulliad am gyfanswm o 23 awr i glywed tystiolaeth gan dros 20 o wahanol arbenigwyr, trafod y problemau, a llunio argymhellion ar yr hyn y gallai sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus lleol, cymunedau ac unigolion ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a gwella bywyd pobl ym Mlaenau Gwent.
Gwnaeth aelodau’r Cynulliad Hinsawdd nifer o argymhellion. Mae’r Cyngor hefyd yn arwain wrth ddatblygu’r ymateb a roddwyd i’r Cynulliad Hinsawdd ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus °¬²æAƬ ac mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo a chaiff ei gwblhau yn yr Hydref.