Mae Cyngor °¬˛ćAƬ yn un o’r cynghorau cyntaf yng Nghymru i ddatblygu ei strategaeth ei hun ar sbwriel a thipio anghyfreithlon, a gynlluniwyd i adeiladu ar waith llwyddiannus cynlluniau’r gorffennol a gostwng problem sbwriel anghyfreithlon. Mae’r strategaeth newydd yn cynnwys cynllun gweithredu cynhwysfawr i ddangos sut y gall y cyngor a’i bartneriaid gydweithio a gostwng effaith troseddau gwastraff ledled y fwrdeistref.
Mae amrywiaeth o gamau gweithredu yn benodol ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem gynyddol sy’n cynnwys ymgysylltu â’r gymuned, gorfodaeth ac addysg ac ymwybyddiaeth. Yn gyffredinol bydd y cynllun yn sicrhau fod preswylwyr, perchnogion tir a busnesau y fwrdeistref yn deall eu cyfrifoldebau am wastraff. Er enghraifft, mae’r cyngor wedi recriwtio dros 200 o Hyrwyddwyr Sbwriel a gaiff offer ar gyfer y gwaith, tra bydd mwy o waith partneriaeth (drwy ddull gweithredu aml-asiantaeth gyda’r Heddlu a Chyfoeth Naturiol Cymru) yn helpu i ddynodi’r rhai sy’n gyfrifol am droseddau amgylcheddol, tebyg i ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon.
Craidd ein strategaeth uchelgeisiol a hanfodol yw’r angen i newid ymddygiad o amgylch sbwriel a thipio anghyfreithlon. Dymunwn greu diwylliant yma ym Mlaenau Gwent lle mae taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn gymdeithasol annerbyniol.
Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
“Mae tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yn staen ofnadwy ar ein tirlun hardd a’n trefi. Nid yn unig mae’n ddolur llygad anghyfreithlon ond mae’n aml yn ychwanegu at risg llifogydd drwy rwystro llwybrau dŵr a draeniau. Bydd ein strategaeth newydd ar sbwriel a thipio anghyfreithlon yn dangos ein hymrwymiad i gadw °¬˛ćAƬ yn amgylchedd glân a gwyrdd, gan ei wneud nid yn unig yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo ond hefyd i ymweld ag ef. Gan y bu cynnydd mewn tipio anghyfreithlon, bydd y dull gweithredu newydd yma yn helpu i ostwng y costau glanhau blynyddol presennol. Bu cadw strydoedd glân a’n hamgylchedd yn flaenoriaeth uchel i’r cyngor ers nifer o flynyddoedd ac mae lleiafrif o bobl sy’n tipio’n anghyfreithlon yn cael effaith negyddol ar fwyafrif ein preswylwyr cyfrifol. Gwnawn bopeth a fedrwn i geisio atal hynny ac rwy’n sicr y bydd pobl °¬˛ćAƬ yn dangos yr un ymrwymiad wrth i ni gyflwyno’r strategaeth newydd yma”.
Cafodd y strategaeth bwrpasol bum mlynedd ei chefnogi gan y cynghorwyr a chaiff yn awr ei mabwysiadu gan y cyngor. Ei phrif nod yw gostwng yn sylweddol y problemau sbwriel a thipio anghyfreithlon presennol a chydymffurfio â gweledigaeth y ddogfen “gostwng sbwriel a thipio anghyfreithlon yn sylweddol fel y gallwn wella ein cynefinoedd naturiol yn ogystal â’n tirluniau gwyllt a threfol, gan gynyddu balchder ac ymwybyddiaeth o’n treftadaeth leol a’n dymuniad i’w gadw’n rhydd o sbwriel”.