°¬²æAƬ

Cyngor yn lansio cynllun tegwch mislif

Mae Cyngor °¬²æAƬ yn gweithio gydag ysgolion lleol, y Gwasanaeth Ieuenctid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phartneriaid eraill yn cynnwys grwpiau gwirfoddol i ddarparu cynnyrch iechydol rhad ac am ddim ledled y fwrdeistref sirol.

Fel rhan o ymgyrch i fynd i'r afael â thlodi mislif ar draws Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grant i alluogi'r Cyngor i ddarparu'r cynnyrch am ddim.

Mae cyflenwr y Cyngor ar gyfer y cynnyrch, phs Group, hefyd yn hyrwyddo achos tegwch mislif ar draws Prydain, ac yn falch iawn i gydweithio gyda °¬²æAƬ ar un o'r cynlluniau cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae phs yn darparu gwasanaethau ystafelloedd ymolchi a glanweithdra ac mae'n gweithio gyda °¬²æAƬ i hwyluso ei nod o sicrhau tegwch mislif drwy osod mwy na 30 o beiriannau dosbarthu di-dâl a'r cynnyrch iechydol cysylltiedig.

Dosbarthwyd y cynnyrch i bob ysgol ar hyn a bydd athrawon yn eu dosbarthu mewn ysgolion cynradd a byddant ar gael o beiriannau dosbarthu mewn ysgolion uwchradd.

Luisa Munro Morris yw Pennaeth Ysgol Gynradd Bryn Bach yn Nhredegar ac mae'n meddwl fod y cynllun yn syniad gwych.

Dywedodd: "Roeddem wrth ein bodd pan gysylltodd y Cyngor i gynnig y cynllun i ni. Gall tegwch mislif ymddangos fel pwnc tabŵ, ond mae'n bwysig ein bod yn cefnogi ein pobl ifanc mewn amrywiaeth o ffyrdd drwy gynnig cynnyrch am ddim a hefyd drwy siarad am y mater fel y gallwn ddileu unrhyw stigma ac embaras am gael mislif a all ddal pobl ifanc yn ôl."

Dywedodd y Cynghorydd Clive Meredith, Aelod Gweithredol dros Addysg ar Gyngor °¬²æAƬ:

"Nid yw'n dderbyniol yn 2019 na all rhai merched ifanc gael mynediad i a defnyddio cynnyrch glanweithdra benywaidd oherwydd rhesymau ariannol neu amgylchiadau eraill. Gall hyn gael effaith negyddol ar fywyd person ifanc, yn arbennig yng nghyswllt eu haddysg a bywydau cymdeithasol.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru rydym wedi medru gweithio mewn partneriaeth gyda'n hysgolion a Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan i sefydlu'r cynllun hwn y mae mawr angen amdano a gobeithio y bydd yn helpu i wneud gwahaniaeth i'n pobl ifanc."

Dywedodd Claire Noble, Pennaeth Gofal Iechyd phs: "Mae phs wedi cysylltu gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion i ddatblygu'r datrysiad i dlodi mislif sydd fwyaf addas ar gyfer anghenion pobl ifanc. Rydym wedi creu peiriant dosbarthu iechydol di-dâl y gellir ei roi mewn ystafelloedd ymolchi, gan gynnig cynnyrch iechydol am ddim unrhyw amser. Maent yn lanwaith, cyfleus ac heb dynnu sylw atynt eu hunain, gan arbed yr embaras posibl i ferched ifanc o orfod mynd a gofyn am gynnyrch nad ydynt efallai awydd gwneud hynny.

"Ar ôl cael eu treialu o fewn ysgolion, rydym yn hyderus mai peiriannau dosbarthu di-dâl yw'r ffordd fwyaf hygyrch a chyfleus o fynd i'r afael â thlodi mislif. Mae °¬²æAƬ wedi cymryd ymagwedd ymarferol a chynhwysfawr at degwch mislif ac rydym yn siŵr y bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Mae Charlotte Clark, Dirprwy Faer Ieuenctid °¬²æAƬ hefyd yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r cynllun ac yn ddiweddar bu'n helpu i lansio arolwg gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ganfod maint problem tegwch mislif yn ein cymunedau ehangach, nid yn unig ymysg pobl ifanc.