Yn dilyn y setliad darpariaethol gan Lywodraeth Cymru, bydd cyllideb °¬²æAƬ yn cynyddu gan 3.6% ar gyfer 2021-22. Mae hyn wedi rhoi £4.2 miliwn ychwanegol mewn cyllid i’r cyngor uwchben amcangyfrifon y gyllideb ddechreuol.
Mae’r sefyllfa ar gyfer 2021/22 yn rhagweld cyllideb gytbwys i gynghorwyr ei hystyried, heb unrhyw doriadau i wasanaethau. Mae’r Cyngor yn deall gwerth y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer preswylwyr lleol ac mae hon yn sefyllfa a groesewir ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Daniels, Arweinydd y Cyngor:
“Mae’r setliad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn newyddion da ar ddiwedd yr hyn a fu mae’n debyg ein blwyddyn fwyaf heriol erioed. Fel Cyngor bu ein ffocws ar flaengynllunio ariannol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Wrth ddatblygu’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2021/22 rwy’n falch i ni fedru cyflwyno set o gynigion na fydd yn gweld unrhyw newidiadau mawr i wasanaethau wrth i ni ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau allweddol.
Mae’r gyllideb a gynigir yn diogelu gwasanaethau hanfodol ac yn ein helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy wrth i ni sicrhau adferiad o ofynion delio gyda Covid-19.
Bu rôl a gwaith staff llywodraeth leol yn ein cymunedau yn hanfodol eleni a rydym wedi medru cadw gwasanaethau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan breswylwyr lleol yn ogystal â mynd yr ail filltir i ddiogelu ein preswylwyr mwyaf bregus.
Rwy’n falch fod cyllideb ddrafft 2021/22 yn parhau i ddangos ein hymrwymiad i wella gwasanaethau ar gyfer holl breswylwyr °¬²æAƬ ac adeiladu cadernid ariannol ar gyfer gofynion blynyddoedd y dyfodol.’
Mae gennym ddiddordeb mewn derbyn eich sylwadau ar ein blaenoriaethau a lefel y Dreth Gyngor sy’n cael ei hystyried a gallwch ddweud eich barn yma.