°¬²æAƬ

Cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned i ail-ddechrau

Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn parhau i ailddechrau ei wasanaethau gyda Llyfrgelloedd yn cynnig gwasanaeth apwyntiad yn unig ar gyfer eu hadnoddau technoleg gwybodaeth, a bydd cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn dechrau ar 14 Medi 2020.

Bu’r gwasanaeth ‘galw a chasglu’ ar gyfer llyfrgelloedd yn boblogaidd ymysg preswylwyr a gobeithio y bydd ailddechrau gwasanaethau TG yn rhoi cefnogaeth hanfodol i’r rhai sydd fwyaf ei angen i gael mynediad i gyfrifiaduron i’w galluogi i edrych am gyflogaeth, gwasanaethau hanfodol a budd-daliadau a chymorth dysgu. Bydd y gwasanaeth ar gael i ddechrau yn y llyfrgelloedd yng Nglynebwy, Abertyleri, Tredegar a Brynmawr, drwy apwyntiad yn unig.

Mae cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn profi’n boblogaidd iawn unwaith eto o gofio am yr ymyriad i addysg dysgwyr ers mis Mawrth eleni. Rhoddwyd blaenoriaeth i ddysgwyr y daeth eu dysgu i ben oherwydd y cyfnod clo ym mis Mawrth. Yn ychwanegol, i sicrhau diogelu ein holl ddysgwyr a staff, bydd y sesiwn cyntaf yn gyflwyniad ar sut i aros yn ddiogel o fewn addysg gymunedol i oedolion yn cynnwys yr angen am ymbellhau cymdeithasol, cydymffurfiaeth gyda systemau unffordd ym mhob rhan o’r canolfannau a phwysigrwydd golchi a diheintio dwylo yn gyson. Yn ychwanegol, caiff dull dysgu cyfunol ei weithredu a derbyniwyd dau grant gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfrifiaduron personol newydd ym mhob un o’r pedair ystafell TGCh ac i brynu gliniaduron a dyfeisiau iPad i gynorthwyo gydag mabwysiadu dull dysgu cyfunol. Gofynnir i chi gysylltu â Chanolfan Dysgu Gweithredol Glynebwy i gael manylion ar sut i gofrestru ar gwrs.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor °¬²æAƬ:

“Gwyddom y cafodd Covid-19 effaith ar ysgolion addysgwyr ifanc ond mae hefyd wedi cael effaith yn yr un modd ar oedolion sy’n dysgu. Felly mae hyn yn newyddion gwirioneddol dda ar gyfer oedolion a all yn awr gael mynediad i ddewis eang o gyrsiau. Mae mynediad i offer TG mewn llyfrgelloedd hefyd yn wasanaeth gwerthfawr a bydd o help mawr i rai sy’n chwilio am swydd yn neilltuol wrth i’r economi ddechrau adfer.

Mae diogelwch defnyddwyr gwasanaeth yn hollbwysig a byddwn yn defnyddio gweithdrefnau Strategaeth Profi Olrhain Diogelu y Llywodraeth i roi sicrwydd ychwanegol.â€

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

“Rydym yn falch iawn fod ein gwasanaethau yn dechrau dychwelyd i’r arfer yn ystod y pandemig. I ddechrau byddwn yn cynnig slot awr i bob cwsmer bob wythnos, o 7 Medi, y gellir ei drefnu drwy ffonio eu llyfrgell leol. Gobeithiwn ymestyn y gwasanaeth hwn ymhellach unwaith y cafodd y cam cyntaf ei brofi ac mae ein gweithdrefnau yn gweithio i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid a chydweithiwr. Rydym yn llawn werthfawrogi pwysigrwydd yr adnoddau hyn i’n cwsmeriaid a’r budd hanfodol y maent yn eu rhoi nad oes ganddynt fynediad i gyfrifiadur adref.

Bu’r defnydd ar ein cyrsiau Dysgu Cymunedol i Oedolion yn eithriadol ac rydym yn hyderus y gallwn ddarparu ein safon uchel o addysg mewn amgylchedd diogel a saff.â€

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.aneurinleisure.org.uk