Croeso
Fel gweinyddiaeth newydd rydym yn gwrando ar
ein trigolion lleol ac yn pennu ein blaenoriaethau yn
seiliedig ar eich adborth i wneud °¬²æAƬ yn
lle gwell i fyw a gweithio.
Mae heriau ariannol yn parhau gyda chyllideb llywodraeth
ganolog sy’n lleihau yn barhaus a bydd penderfyniadau anodd
i’w gwneud yn ddiweddarach eleni pan fyddwn yn gosod ein
cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae ein blaenoriaethau uniongyrchol ers mis Mai wedi cynnwys
moderneiddio ein trefniadau llywodraethu ac ailgyfeirio rhai
effeithlonrwydd ariannol i wasanaethau rheng flaen y Cyngor.
Ail-ddynodwyd safle’r Maer ac ailgyfeirir arbedion gwerth £55,000
i ariannu benthyciadau hirdymor ar gyfer gwella ffyrdd preswyl,
strydoedd a phalmentydd. Fe wnaethom ostwng nifer yr aelodau
Gweithredol o 7 i 5 a lleihau’r lwfansau y gallwn eu hawlio ar
gyfer swyddi uwch. Bydd y dewisiadau hyn hefyd yn cynhyrchu
arbedion i ail-fuddsoddi mewn mentrau glanhau strydoedd.
Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu Michelle Morris fel ein Rheolwr
Gyfarwyddwr newydd. Mae Michelle yn ymuno â ni o Highland Council, un o’r
awdurdodau lleol mwyaf yn yr Alban lle’r oedd yn dal swydd Dirprwy Brif Weithredwr
a Chyfarwyddwr, Datblygu Corfforaethol. Mae ei gyrfa llywodraeth leol gynharach
wedi cynnwys swyddi uwch reolwyr yng Nghynghorau Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac
Abertawe. Rydym yn falch o ddenu Michelle sydd yn ymgeisydd o safon i weithio gyda
ni ym Mlaenau Gwent. Mae hwn yn benodiad allweddol sy’n hanfodol wrth arwain
y Cyngor yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf wrth i lywodraeth leol wynebu
heriau ariannol pellach.
Cymerwch amser i ddarllen y rhifyn hwn o’r cylchgrawn Connect sy’n rhoi diweddariad
i chi ar rai o feysydd gwaith allweddol y Cyngor...
Cyswllt - Hydref 2017