Wrth i gyfradd ailgylchu Cymru gyrraedd ei lefelau uchaf erioed, rydyn niān galw ar ein preswylwyr i ddal ati gydaāu hymdrechion āgwychā i ailgylchuār Nadolig hwn.Ā
Gyda 94% ohonom yn ailgylchuān rheolaidd *, mae Cymruān genedl o Ailgylchwyr Gwych. Ni ywār drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydyn niān cefnogi Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un.
Maeār data diweddaraf yn datgelu ein bod un cam yn nes at gyrraedd y brig, gan fod cyfradd ailgylchu Cymru wedi codi i 65.4%**. Mae hyn yn golygu ein bod yn ailgylchu ychydig mwy na 65% oān gwastraff yn gyfan gwbl, syān rhagori ar darged Llywodraeth Cymru yn āMwy nag Ailgylchuā o 64% ar gyfer eleni.
Datgelodd arolwg a gynhaliwyd yn gynharach eleni bod mwy na 8 ym mhob 10 o ddinasyddion Cymruān ystyried mai ailgylchu ywār peth āiawnā iāw wneud erbyn hyn, ac mae 7 allan o 10 yn ailgylchu i chwarae eu rhan dros yr amgylchedd.*** Mae mwy ohonom nag erioed yn gweld ailgylchu fel rhan oān harferion dyddiol. Maeān ddiddorol gweld bod cynnydd mawr yn y nifer ohonom syān nodi mai pryderon amgylcheddol yw ein prif ysgogiad i ailgylchu. Mae hyn yn wych, ond gyda bron iān hanner ni ddim yn ailgylchu popeth y gallwn o hyd, mae mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod ein heitemau ailgylchadwyān cael eu rhoi allan gydaān casgliadau ailgylchu ar ymyl y ffordd bob wythnos.
Os ydym ni am gael Cymru oār trydydd safle yn y byd i rif un, a pharhau i ddiogelu ein hadnoddau gwerthfawr, mae angen inni oll roi hybu ein hymdrechion dros gyfnod yr Å“yl.
Yn draddodiadol, y Nadolig ywār adeg oār flwyddyn pan gaiff mwy o wastraff ei greu gartref. Oār holl fwyd ychwanegol rydyn niān ei brynu, iār mynydd o ddeunydd pacio a ddaw yn sgil prynu anrhegion Nadolig, maeān gyfle gwych i wneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu popeth posibl.
Dyna pam rydyn niān cefnogiār ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i annog pawb yng Nghymru i fod yn Ailgylchwyr Gwych y Nadolig hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
āMae dinasyddion Cymruān dangos eu bod yn WYCH am ailgylchu, a dylem oll fod yn falch oān hymdrechion, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Rydyn niān galw ar einĀ preswylwyr i ddal ati gydaār gwaith da dros y Nadolig a helpu i gael Cymru i Rif 1, yn enwedig gan mai ar yr adeg hon oār flwyddyn rydyn niān defnyddio ac yn prynu llawer mwy nag arferā.
āGwyddom fod pobl yng Nghymruān malio am ddiogelu ein gwlad hardd ac mae ailgylchuān chwarae rhan allweddol mewn taclo newid hinsawdd. Dyma weithred syml y gall pawb ei gwneud i helpu i wneud gwahaniaeth go iawnā.
Dilynwch y cynghorion gwych hyn i fod yn Ailgylchwr Gwych y Nadolig hwn:
ā¢ Bwytewch, ailgylchwch, byddwch lawen. Mae pob Cyngor yng Nghymruān darparu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Defnyddiwch ef, da chi. Gellir ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwydydd dros ben na ellir eu bwytaān ddiogel yn nes ymlaen! A daliwch ati i ailgylchu gwastraff bwyd arall dros gyfnod y Nadolig hefyd, fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau a hen fara.
ā¢ Concrwch eich cardbord y Nadolig hwn. Gallwch ailgylchuār holl gardbord a ddaw yn eich danfoniadau ar-lein. Tynnwch y tĆ¢p pacio a fflatio unrhyw focsys, neu gallwch eu torriān ddarnau llai i arbed lle yn eich bag, bin neu focs ailgylchu. Ar Ć“l y Nadolig, ailgylchwch eich cardiau i gyd, ond cofiwch dynnu unrhyw fathodynnau, ffoil, llwch llachar neu rubanauān gyntaf, gan na ellir ailgylchuār darnau hyn.
ā¢ Gellir ailgylchuār rhan fwyaf o eitemau plastig a geir o amgylch y cartref, yn cynnwys poteli diodydd, poteli nwyddau glanhau, a photeli nwyddau ymolchi. Gwagiwch, rinsiwch a gwasgwch nhw cyn eu hailgylchu. Gadewch unrhyw gaeadau, labeli, pigau arllwys a chwistrelli arnynt, caiff y rhain eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu. Gallwch hefyd ailgylchuār tybiau plastig mawr o siocled a losin maeār rhan fwyaf ohonom yn eu mwynhau dros y Nadolig!
ā¢ Peidiwch anghofio ffoil y Nadolig hwn. Ailgylchwch eich casys mins peis ffoil gwag ac unrhyw ffoil a gafodd ei ddefnyddio i goginio dros y Nadolig, cyn belled Ć¢āi fod yn lĆ¢n, heb staen a heb fwyd, saim neu olew arno. Rinsiwch dybiau a chynwysyddion ffoil cyn eu hailgylchu.
ā¢ Gellir ailgylchu caniau bwyd a diod metel. Rhowch rinsiad sydyn iār caniauān gyntaf.
ā¢ Mae papur lapio yn anodd ei ailgylchu, ond mae yna ddewisiadau amgen ecogyfeillgar iāw cael, fel papur brown a brethyn lapio, a gellir eu haddurno gyda rhubanau Nadoligaidd, aār peth da amdanyn nhw yw y gellir eu defnyddio eto'r flwyddyn nesaf!
Os ydych chiān ansicr oār hyn y gallwch ā ac na allwch ā ei ailgylchu, gallwch ddefnyddio Lleolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu.
I ddysgu mwy am ffeithiau ac awgrymiadau ā12 dydd y Nadoligā Cymru yn Ailgylchu, ewch draw iār wefan byddwychailgylcha.org.uk/ neu ymunwch Ć¢ār sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #ByddWychAilgylcha a #ByddWychDrosYDolig.
___________________________________________________________
* WRAP National Recycling Tracker (Cymru), Mawrth 2021
** StatsCymru
*** Arolwg Icaro Post-Burst 3, Ebrill 2021