Cynhaliwyd y lansiad ddydd Gwener 21 Hydref ym Memo Trecelyn lle cyflwynwyd trosolwg o'r rhaglen gefnogaeth. Cafodd y digwyddiad ei agor gan Ian Thomas o Gyngor Gofal Cymru.
Nod y rhaglen gefnogaeth yw:
- Sicrhau pontio llyfn o fod yn fyfyriwr i fod yn weithiwr cymdeithasol hyderus
- Cynyddu cadw a bodlonrwydd gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso
- Sicrhau bod dinasyddion yn derbyn gwasanaethau ansawdd uchel
- Datblygu rhwydwaith cefnogaeth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso
- Cyflawni disgwyliadau Cyngor Gofal Cymru
Cafodd datblygu'r rhaglen ei gefnogi gan ymgynghoriad gyda dinasyddion, ymchwilio rhaglenni cefnogaeth a chyhoeddiadau eraill a gwrando ar adborth gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso.
Bydd y rhaglen gefnogaeth hefyd yn galluogi gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso i baratoi ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol gan y bydd yn ofyniad gan Gyngor Gofal Cymru fod yr holl weithwyr cymdeithasol sy'n cymhwyso ar Ă´l Ebrill 2016 yn cwblhau'r Rhaglen Cyfnerthu.
Dywedodd y Cyng Robin Woodyatt, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Caerffili: "Rwy'n falch iawn fod rhaglen cefnogaeth gweithwyr cymdeithasol Tair Blynedd Cyntaf mewn Ymarfer yn cael ei lansio gan y bydd yn rhoi gwasanaeth mentora gwerthfawr ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso. Yn ogystal â chyflwyno'r gweithwyr cymdeithasol hyn i waith cymdeithasol proffesiynol, bydd y rhaglen cefnogaeth yn eu galluogi i gynyddu mewn hyder a gallu. Edrychaf ymlaen at weld sut bydd y rhaglen cefnogaeth yn datblygu yn y dyfodol."
Dywedodd y Cyng Bartlett, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol °¬˛ćAƬ: "Mae hyn yn gynllun mor gadarnhaol ar gyfer holl fyfyrwyr gwaith cymdeithasol. Gobeithio y caiff y rhaglen ei gweld fel ased wirioneddol i bobl a all fod yn derbyn gofal gan y gweithwyr gofal cymdeithasol hyn yn y dyfodol. Rwy'n sicr y bydd yr hyder a'r gefnogaeth a geir drwy'r rhaglen yn cael ei drosglwyddo i'r gosodiad gofal proffesiynol a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r rhaglen."