Mae’r ffryntiad hanesyddol yn Y Cylch yn Nhredegar wedi’i ddatgelu wrth i Gynllun Menter Treftadaeth Treflun Tredegar fynd rhagddo. Mae cymorth grant ychwanegol hefyd wedi ei ryddhau i gefnogi dau adeilad treftadaeth arall.
Fe fu newid dramatig yng ngolygfa’r stryd o amgylch Y Cylch, Tredegar. Mae’r Tredegar Arms a Fferyllfa Nelson yn ddau eiddo cyfagos sydd wedi elwa o ymyriad grant MTT (Menter Treftadaeth Tredegar). Cafodd hyn arian cyfatebol at fuddsoddiad y perchennog, felly’n galluogi ymgymryd â phrosiectau adnewyddu, gan barchu cymeriad ardal gadwraeth Tredegar.
Ymhellach at y prosiectau cyfredol hyn, mae dau arall o adeiladau lleol Tredegar sy’n paratoi i dderbyn adnewyddiad hanesyddol yn dilyn cynnig grant o Gynllun MTT. Wedi’i leoli i’r gorllewin o gloc hanesyddol y dref, mae adeiladau cyfagos 4 a 5 Y Cylch yn ffurfio rhan o dirwedd hanesyddol adeiladau a gynlluniwyd yn ystod cyfnod llewyrchus y dref trwy’r diwydiant haearn ac sydd, yn ddiweddar, wedi bod yn wag ac mewn angen buddsoddiad. Mae’r perchnogion wedi derbyn cynnig ariannu gan MTT Tredegar i helpu gyda’r gwaith adnewyddu i ddarparu cymysgedd o unedau masnachol a phreswyl yn Nhredegar, gan ystyried cadwraeth.
Mae’r adeiladau, sef rhifau 4 a 5 Y Cylch, ym mherchnogaeth DAB Clubs Ltd a M&JK Properties Ltd., sy’n datgan: “Bydd dyfarnu’r grant ariannu yn cefnogi ein buddsoddiad yn y prosiect yn 4 a 5 Y Cylch ac yn caniatáu adnewyddu dau adeilad gwag i ddarparu defnydd masnachol a phreswyl newydd yn Nhredegar.”
Dywed y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬˛ćAƬ:
Mae’r prosiectau ynghlwm â’r cynllun yn symud yn eu blaenau’n dda ac yn dechrau trawsnewid golwg yr ardal, gydag adeiladau hanesyddol yn cael eu hadnewyddu a’u hadfywio. Mae hi’n newyddion ffantastig bod dau adeilad arall yn Nhredegar yn cael eu paratoi i gael i dderbyn arian cyfatebol, gan ychwanegu at y portffolio presennol yr eiddo sy’n cael eu hadnewyddu yn yr ardal. Mae’r prosiectau hyn yn enghreifftiau o sut mae’r rhaglen yn cefnogi gwelliannau pwysig a fydd o fudd i gymunedau cyfan.”
Bydd yr ariannu partneriaeth yn ailwampio’r tu allan gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau traddodiadol i ganiatáu i’r adeiladau ymddangos a gweithredu yn ôl y dylunio gwreiddiol. Yn ogystal â’r gwaith a ymgymerwyd yn ddiweddar, fe fydd rendro calch a ffenestri codi pren a gosod ffryntiadau siopau a fydd yn rhoi ystyriaeth i gadwraeth.
Ariennir y prosiect gan y perchnogion a nifer o bartneriaid gyda chyfraniadau grant MTT wedi’u derbyn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Rhaglen Taclo Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw a Chyngor Bwrdeisdref Sirol °¬˛ćAƬ.
Ariennir y Cynllun MTT gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Rhaglen Taclo Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw a Chyngor Bwrdeisdref Sirol °¬˛ćAƬ.