°¬˛ćAƬ

Datgelu rheolau coronafeirws adolygedig ar gyfer Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y gofyniad craidd i bobl beidio â gadael y lle ble maent yn byw i ofyniad i beidio â gadael neu aros o’r lle hwnnw.

Bydd hyn yn helpu i esbonio i bobl sy’n gadael eu cartref gydag esgus rhesymol – fel mynd allan i siopa am fwyd, ar gyfer gofal iechyd neu i’r gwaith – nad ydynt yn gallu aros allan i wneud pethau eraill.

Daw’r newidiadau i rym wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi heddiw fframwaith newydd a saith cwestiwn allweddol i helpu i arwain Cymru allan o’r pandemig.

Bydd hyn yn helpu i benderfynu pryd daw’r amser priodol i’r cyfyngiadau aros gartref gael eu llacio.

Wrth gyhoeddi’r newidiadau i’r rheoliadau heddiw, sy’n dilyn yr adolygiad tair wythnos statudol cyntaf o’r gyfraith, dywedodd y Prif Weinidog:

Mae’r cyfyngiadau’n parhau, sy’n golygu bod rhaid i chi aros gartref i achub bywydau a gwarchod y GIG.

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi cymryd camau digynsail i warchod pawb, ond yn enwedig y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol. Mae’r dull hwn o weithredu wedi helpu’r GIG i baratoi ac ymdopi â’r coronafeirws ac mae wedi helpu hefyd i achub llawer o fywydau.

Mae’r newidiadau rydyn ni’n eu cyflwyno’n ategu’r rheolau sydd mewn grym eisoes ond maen nhw’n ymateb i rai heriau sy’n cael eu hwynebu mewn rhannau o’r wlad a chan deuluoedd ledled Cymru.

Nid yw ein neges ni wedi newid – fe all unrhyw un ddal y coronafeirws, ac fe all unrhyw un ei ledaenu. Felly plîs, arhoswch gartref, gwarchod y GIG, ac achub bywydau.

Mae’r newidiadau eraill, a ddaw i rym am 00:01 ddydd Sadwrn, yn cynnwys y canlynol:

  • gweithredu’r ddyletswydd cadw pellter corfforol o 2m mewn eiddo sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau dull “clicio a chasglu” – mae’r ddyletswydd hon yn ei lle eisoes ar gyfer gweithleoedd eraill, sy’n parhau ar agor
  • ehangu’r diffiniad o berson agored i niwed i gynnwys grwpiau neu gyflyrau penodol eraill lle gall pobl elwa o gymorth ac y mae darparu cyflenwadau iddynt yn esgus rhesymol i berson arall adael ei gartref (er enghraifft, pobl â dementia)
  • ymestyn y ddyletswydd cadw pellter corfforol i gaffis sy’n agored i’r cyhoedd mewn ysbytai, a’r rhai sy’n gyfrifol am y ffreutur mewn ysgolion, carchardai ac ar gyfer eu defnyddio gan y lluoedd arfog, i sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei roi ar waith

Hefyd mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bedwar heddlu Cymru ddarparu cyngor pellach ynghylch a oes angen i’r ddarpariaeth bresennol i atal pobl rhag teithio i ail gartrefi yng Nghymru gael ei chryfhau ymhellach.