Bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig yn ymuno â miliynau ym mhedwar byd yn y dathliad mwyaf o entrepreneuriaeth a diwylliant dechrau busnesau ar gyfer yr Wythnos Fenter Fyd-eang. Mae'n gyfle i ddathlu entrepreneuriaid y Deyrnas Unedig a'r cwmnïau maent yn eu creu
Bydd dros 170 o wledydd yn dathlu, gyda 35,000 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ystod yr wythnos - yn cysylltu mwy na miliwn o gyfranogwyr gyda chydweithwyr, mentoriaid a buddsoddwyr posibl. Bydd °¬²æAƬ yn ymuno yn y dathliadau. Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau yn y Fwrdeistref yr wythnos hon ar gyfer busnesau ac entrepreneuriaid newydd a phresennol.
Rhwydwaith Effaith BG - dathlu pedwerydd pen-blwydd y digwyddiad rhwydweithio
• Cyfleoedd rhwydweithio busnes anffurfiol am ddim. Cyngor a chefnogaeth ar gyfer busnesau newydd a phresennol gan Flaenau Gwent a sefydliadau partner yn y Parth Cymorth Busnes. Cwrdd a rhwydweithio gyda busnesau eraill.
• Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2019, 5.30pm - 8.00pm, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
• Cliciwch ar y ddolen ddilynol i archebu eich lle:
https://eventpilot.evolutive.co.uk/eventDetails.aspx?siteId=323&eventNo=149372
Syniadau Mawr Cymru - Arloesedd yn y Byd Digidol
• Seminar am ddim ar gyfer pobl ifanc (rhwng 16-25 oed) sydd eisiau dechrau busnes ac annog sgiliau entrepreneuraidd ym mha bynnag yrfaoedd a ddewisant. Bydd y pynciau yn cynnwys pwysigrwydd arloesi digidol a manteisio ar y cyfle yn y chwyldro digidol.
• Dydd Mawrth 19 Tachwedd 2019, 12.30pm - 2.00pm, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
• Cliciwch ar y ddolen ddilynol i archebu eich lle: https://wales.business-events.org.uk/en/events/innovation-in-the-digital-world/
Rhwydwaith Busnes Menywod
• Sesiwn Cwestiwn ac Ateb, trafodaeth a rhwydweithio rhad ac am ddim yn cynnwys cyflwyniad gan enillydd Gwobr Stryd Fawr 2018.
• Dydd Iau 21 Tachwedd 2019, 9.30am - 12.30pm, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
• Cliciwch ar y ddolen ddilynol i archebu eich lle: https://eventpilot.evolutive.co.uk/eventDetails.aspx?siteId=323&eventNo=150556
Sesiwn Galw Heibio Dechrau Busnes
• Sesiwn galw heibio am ddim ar gyfer dechrau busnesau. Dewch i ymweld â Thîm Economaidd °¬²æAƬ i gael cyngor a chefnogaeth ar sefydlu busnes yn yr ardal. Bydd gwybodaeth am grantiau dechrau busnes ar gael.
• Dydd Gwener 22 Tachwedd, 10am - 12pm, Llyfrgell Blaenau, Stryd Fawr, Blaenau
• Dim angen apwyntiad, galwch heibio rhwng 10am - 12pm.
Sesiwn Galw Heibio Busnes - Busnesau Presennol
• Sesiwn galw heibio am ddim ar gyfer busnesau presennol ym Mlaenau Gwent. Cyngor a chymorth ar gyfer busnesau presennol yn yr ardal.
• Dydd Gwener 22 Tachwedd 2019, 10am-12pm, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
• Dim angen apwyntiad, galwch heibio rhwng 10am - 12pm
Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ:
“Mae hwn yn gyfle gwych i roi sylw a dathlu entrepreneuriaid a busnesau ym Mlaenau Gwent. Mae angen i ni gydnabod busnesau ac unigolion sy'n gweithio drwy'r flwyddyn gron i'w wneud yn llwyddiant ac felly'n hanfodol i'r economi lleol a hefyd yn genedlaethol.
Yn ystod yr Wythnos Fenter Fyd-eang, bydd Tîm Datblygu Economaidd Cyngor °¬²æAƬ yn trefnu a hwyluso nifer o ddigwyddiadau ar gyfer y rhai a all fod â syniad am ddechrau busnes neu p'un ai ydych yn fusnes presennol ac â llygad ar dwf. Bydd digwyddiadau ar gyfer y gwahanol gynulleidfaoedd targed megis menywod mewn busnes, helpu pobl ifanc i ddod yn entrepreneuriaid yn yr oes ddigidol a chyfleoedd rhwydweithio.
Mae cyngor a chymorth busnes ar gael drwy'r flwyddyn mewn nifer o ddigwyddiadau a llwyfan busnes ar-lein am ddim Hyb Busnes °¬²æAƬ.".
Hyb Busnes °¬²æAƬ https://www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk/
Wythnos Fenter Fyd-eang
https://www.genglobal.org/gew