°¬˛ćAƬ

Dathlu Pen-blwydd Llwyddiannau Busnes

Mae nifer o fusnesau lleol °¬˛ćAƬ a fu'n llwyddiannus yn eu cais am Gronfa Busnes Effaith BG wedi bod yn mwynhau Pen-blwydd cyntaf Cronfa Effaith BG ac yn rhannu llwyddiant eu blwyddyn gyntaf o fasnachu fel busnes.

Gwnaeth Christian Paul gais am gyllid Busnes Effaith BG y llynedd i gynorthwyo i brynu offer i gefnogi ei fusnes newydd "Christian Paul Handyman and Garden Services". Mae Christian wedi datblygu sylfaen o gwsmeriaid rheolaidd  ac mae ganddo nifer o gontractau cynnal a chadw gerddi, yn cynnwys rheoli Canclwm Japan. Dywedodd Christian:

"Roedd Cyllid Effaith BG yn help enfawr wrth i mi ddechrau'r busnes gan helpu i dalu am gost fy offer ac felly fynd â pheth o straen a phwysau y buddsoddiad ariannol mawr roedd yn rhaid i mi ei wneud. Mae gorfod creu cynllun busnes wedi fy helpu i ganolbwyntio'n agos ar fy anghenion a flwyddyn yn ddiweddarach, mae gennyf fusnes tasgmon a gwasanaethau gardd llwyddiannus gyda nifer fawr o gwsmeriaid rheolaidd".

Gwnaeth Ashley Trow gais llwyddiannus am gyllid Effaith BG y llynedd i sefydlu The Barber Lounge yn Llanhiledd. Mae Ashley hefyd wedi mwynhau blwyddyn gyntaf dda o fasnachu ac mae'n cynnig sesiynau galw heibio drwy ei dudalen Facebook ynghyd ag apwyntiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw. Mae Ashley wedi ennill gwobrau am ei sgiliau fel barbwr ac oherwydd twf busnes, mae'n hysbysebu ar hyn o bryd am brentis sy'n dymuno dechrau gyrfa yn y sector gwasanaeth twf. Dywedodd Ashley:

"Mae cyllid Effaith BG wedi fy helpu i wneud rhywbeth rwy'n ei garu - bob dydd gwneud i rywun deimlo'n well amdanynt eu hunain! Roedd gen i weledigaeth a dim ond dechrau pethau yw hyn!"

Bu cynllun grant Cronfa Effaith BG yn weithredol ers mis Tachwedd 2017 ac mae wedi cefnogi 25 o fusnesau newydd a 31 o swyddi llawn-amser ym Mlaenau Gwent.

Mae'r broses gais yn rhoi cefnogaeth atgyfeirio i'r rhai sydd angen cymorth i baratoi cynllun busnes ac mae swyddog datblygu busnes neilltuol yn cynnal sesiynau galw heibio wythnosol i fusnesau mewn llyfrgelloedd ym Mlaenau Gwent bob dydd Gwener rhwng 10am-12pm ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno sgwrsio am syniad busnes. Nid oes angen apwyntiad.

Os oes gennych syniad am fusnes newydd ac yr hoffech fwy o wybodaeth ar sut y gallai Cronfa Effaith GB gynorthwyo eich uchelgais fel entrepreneur, ffoniwch ni ar 01495 355700 neu anfon e-bost atom yn business@blaenau-gwent.gov.uk