°¬²æAƬ

Digwyddiad Rhwydweithio Busnes Effaith BG gyda Google: Dydd Mawrth Ionawr 24, 2017

Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ yn falch i gyhoeddi ei fod yn cydweithio gyda Google Digital Garage i roi cefnogaeth a hyfforddiant digidol yn nigwyddiad rhwydweithio nesaf BG Effect a gynhelir ddydd Mawrth 24 Ionawr 2017, 5.00-7.30pm yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy (NP23 6AA).

Bydd Digital Garage Google yn cynnig llwyfan hyfforddiant sgiliau digidol i fusnesau yn yr ardal i'w cynorthwyo i dyfu eu busnes, gyrfa a hyder ar-lein. Hefyd bydd arbenigydd digidol Google yn dod i ddangos yr hyn sydd ei angen i gael mantais gystadleuol yn y tirlun digidol sy'n newid yn gyson, felly dewch yn barod i ddysgu a gofyn cwestiynau hefyd.

Trefnir nifer o ddigwyddiadau BG Effect drwy gydol y flwyddyn a bydd y digwyddiad neilltuol hwn ynghyd â Google yn rhoi cefnogaeth i fusnesau am farchnata, presenoldeb digidol a chefnogaeth i dyfu eich syniadau busnes. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar:

  • Dweud eich stori ar-lein â€“ Dysgu sut i wneud i'ch gwefan ddisgleirio ar bob dyfais a gwella eich presenoldeb digidol drwy gyfryngau cymdeithasol, fideo ar-lein a chanfod eich busnes ar Google.
  • Cyrraedd cwsmeriaid newydd ar-lein â€“ Dysgu sut i wneud eich busnes yn fwy amlwg ar-lein i helpu cwsmeriaid newydd i ddod o hyd i chi drwy optimeiddio chwiliad, rhestri lleol a marchnata peiriant chwilio.
  • Parth marchnata The Effect - Gwasanaethau cysylltiedig â marchnata ar gael gan fusnesau lleol.
  • Cymorth busnes ar-lein - Bydd cymorth busnes cyffredinol ar gael gan BG Effect, Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ a Busnes Cymru
  • Cymorth ariannol - Cymorth grant posibl gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ (grant Kick Start a Kick Start +).  
  • Gwasanaeth am ddim '°¬²æAƬ Ar-lein' i helpu pobl ym Mlaenau Gwent i fynd ar-lein a manteisio i'r eithaf ar dechnoleg.
  • Rhwydweithio anffurfiol - Dysgu gan eraill, rhannu profiadau, cyngor a chymorth, cysylltiadau newydd, cyfleoedd masnachu lleol, cynhyrchu busnes
  • Cymorth arall –
    • Cyflymu Cymru i Fusnesau - gwasanaeth cymorth busnes a gyllidir yn llawn a all helpu busnesau i fanteisio i'r eithaf ar yr ystod o dechnolegau digidol sydd ar gael.
    • Busnes Cymru - Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau newydd a busnesau sydd eisoes wedi sefydlu yng Nghymru.

Ar y diwrnod gall busnesau (newydd a phresennol) geisio cyngor ar sefydlu a thyfu busnes a'r hyder i ddatblygu'n ddigidol. Bydd tîm adfywio y Cyngor sy'n cynnig nifer o wasanaethau i gynorthwyo busnesau yn bresennol i gynnig cefnogaeth megis y grantiau sydd ar gael (Kick Start a Kick Start Plus), cymorth eiddo a safleoedd busnes a chynlluniau sgiliau cyflogaeth. Yn ogystal â hyn, bydd tîm o gwmnïau marchnata lleol ar gael i roi mwy o gyngor fydd yn cefnogi cyngor Google a gwasanaethau cymorth busnes y Cyngor. Felly caiff busnesau gynnig pecyn cyflawn o gefnogaeth mewn un lle.

Dywedodd y Cyng Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ:

“Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ yn falch i drefnu digwyddiad arall BG Effect yn dilyn llwyddiant y digwyddiad blaenorol lle bu tua 155 o bobl yn bresennol. Bydd Google Digital Garage, ein siaradwr gwadd, ynghyd â gwasanaethau busnes adfywio'r Cyngor a'n partneriaid yn rhoi mynediad i fusnesau i gefnogaeth, cyngor a chymorth ymarferol o'r digwyddiad. Dylai busnesau, p'un ai ydynt yn newydd neu wedi sefydlu, adael yn teimlo'n hyderus am eu camau nesaf gyda'r cysylltiadau a'r cynlluniau cywir ar gael iddynt fydd yn helpu i gynorthwyo eu busnes.â€

Dywedodd Chris Wilkins o Wilkins Foot Clinic yn Abertyleri:

“Fel busnes newydd, bûm yn nigwyddiad blaenorol BG Effect a chefais lawer iawn o gefnogaeth i fedru hybu fy hyder a thyfu fy musnes. Yn ogystal â mynediad i gyngor a chefnogaeth menter busnes, gallais hefyd gydlynu gyda thîm o bobl o'r Cyngor a'i bartneriaid i fedru gwneud cais am gyllid grant Kick Start Plus sy'n helpu busnesau. Rwy'n falch i ddweud y cafodd hyn ei gymeradwyo'n ddiweddar. Byddwn yn argymell y digwyddiad i fusnesau newydd a phresennol, lle gallwch gael mynediad i gyngor a chymorth yn y fan a'r lle ar gyllid, marchnata a busnes gan y tîm, ei bartneriaid ac ystod eang o fusnesau o'r gymuned.â€

Dewch i ymuno â ni ddydd Mawrth 24 Ionawr 2017. I gofrestru am y digwyddiad ewch i:

http://eventpilot.evolutive.co.uk/eventDetails.aspx?siteId=323&eventNo=18077

I gael gwybodaeth am y digwyddiad ewch i: www.bgeffect.com

I gael gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau presennol a busnesau newydd ewch i: http://www.blaenau-gwent.gov.uk/