Gallwch ddweud eich barn drwy lenwi ein harolwg ar-lein (fydd ar gael o 5 Rhagfyr) neu drwy fynychu un o'r digwyddiadau her cyllideb a gynhelir o amgylch y fwrdeistref ym mis Rhagfyr. Bydd gwybodaeth am sut y caiff y Cyngor ei gyllido a manylion cynigion am arbedion a blaenoriaethau a gyflwynir i bobl roi sylwadau arnynt. Bydd hefyd gyfle i drafod y polisi 'Dim Gwastraff Ochr' a gyflwynodd y Cyngor er mwyn cyrraedd targedau ailgylchu llym Llywodraeth Cymru a sut y gallwn eich helpu.
Bydd ein digwyddiadau ymgysylltu Her Cyllideb °¬˛ćAƬ yn dechrau yn Nhredegar ar 5 Rhagfyr. Dyma fanylion llawn y digwyddiadau:
Dydd Mercher 5 Rhagfyr - Lidl Tredegar, 4.30pm – 6.30pm
Dydd Gwener 7 Rhagfyr - Marchnad Glynebwy - 10.30am – 12.30pm
Dydd Gwener 7 Rhagfyr - Tesco Abertyleri - 4.30pm – 6.30pm
Dydd Llun 10 Rhagfyr - Canol Tref Blaenau - 9am – 11am
Dydd Mawrth 11 Rhagfyr - Tesco Glynebwy - 4.30pm – 6.30pm
Dydd Iau 13 Rhagfyr - Marchnad Abertyleri - 10.30am – 12.30pm
Dydd Sadwrn 15 Rhagfyr - Brynmawr (lleoliad i'w gadarnhau) - 10.30am – 12.30pm