Mae'r rhaglen Brilliant Schools, a gychwynnwyd gan Andy Cope, yn gweithio gyda phlant, staff a rhieni i'w dysgu sut i fod y fersiwn orau ohonynt eu hunain i fod yn wydn a sboncio'n ôl pan mae heriau'n eu hwynebu. Caiff plant hefyd eu hannog i wneud 'gweithredoedd caredig ar hap' sy'n gwneud gwahaniaeth i'w dosbarth, eu hysgol, eu teuluoedd a'u cymunedau. Ymwelodd Mike Martin, cydlynydd Brilliant Schools, â'r ysgol i hyfforddi disgyblion Blwyddyn 5 a staff ac fe wnaeth disgyblion blwyddyn hyfforddi gweddill yr ysgol a disgyblion hefyd!
Dywedodd Ann Bellis, Pennaeth yr ysgol:
"Gwelsom dwf go iawn mewn hunan-barch, hunan-hyder a gwytnwch ymhlith y disgyblion blwyddyn 5 sydd wedi arwain gweddill yr ysgol ar y daith llesiant yma a rydym yn falch o'r hyn a gyflawnodd ein dysgwyr."
Ychwanegodd SiĂ´n Roberts, Dirprwy Bennaeth ac athro Blwyddyn 5:
"Yn ogystal â dylanwadu ar eu sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth, mae ffordd gadarnhaol y disgyblion o feddwl wedi cyfoethogi pob maes o'u dysgu."
Meddai'r Cynghorydd Clive Meredith, Aelod Gweithredol dros Addysg Cyngor °¬˛ćAƬ:
"Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg ar eu gwaith gyda'r rhaglen 'Brilliant Schools'. Mae llesiant disgyblion yn rhan mor bwysig o fod yn yr ysgol ac mae'n flaenoriaeth i'r Cyngor a'n holl ysgolion. Rydym eisiau i ddisgyblion fwynhau dod i'r ysgol a bod yn hapus tra'u bod yn dysgu."
Y flwyddyn nesaf mae disgyblion o Bro Helyg yn gobeithio ymweld ag ysgolion eraill i rannu eu profiadau ac i gysylltu gyda chartref gofal lleol er mwyn lledaenu'r hapusrwydd.
Mae mwy o wybodaeth am raglen Brilliant Schools are gael yma.