Mae un o asedau treftadaeth gorau Tredegar, Tredegar Arms, yn parhau i gael ei ailwampio er mwyn adfywio’r hen adeilad.
Drwy gyfuniad o gyllid gan Fenter Treftadaeth Treflun (MTT), buddsoddiad sylweddol gan y perchennog a gweithlu ymroddedig, mae’r adeilad hwn a fu unwaith yn wag nawr yn cael ei adfer yn sensitif er mwyn diogelu’i ddyfodol.
Dywedodd yr Aelod Gweithrediaeth ar gyfer Adfywio a Datblygu Economaidd o Gyngor Bwrdeistrefol Sirol °¬²æAƬ:
“Roedd y prif waith adfywio wedi dechrau yn Ionawr 2017 ac mae cryn gynnydd wedi ei wneud. Mae’r adeilad wedi cael to newydd, gwaith rendro newydd, ffenestri, mynediad ac addurniadau ynghyd â gwaith sylweddol i’r gofod mewnol er mwyn medru defnyddio’r adeilad fel gwesty. Mae’r cam nesaf o’r gwaith yn golygu adeiladu estyniad er mwyn lletya’r ystafell ddigwyddiadau. Y nod yw cwblhau’r prosiect yn hydref 2018. Fel rhan o’r prosiect, rydym hefyd yn creu cyfleoedd hyfforddi er mwyn gwella sgiliau yn yr ardal.â€
Dywedodd perchnogion y Tredegar Arms:
“Rydym yn gwerthfawrogi’r cyllid o’r grant MTT sydd yn cefnogi ein cyfraniad ariannol er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer yr adeilad. Rydym hefyd wrth ein bodd gan y cynnydd sydd yn cael ei wneud ar y prosiect gan y contractwyr a’r isgontractwyr.â€
Drwy weithio mewn partneriaeth gyda’r Cynllun MTT a phrosiect Esgyn Tredegar, mae yna gyfleoedd i gael profiad gwaith gyda’r prosiect treftadaeth am gyfnod o wyth wythnos o dan hyfforddiant. Mae Mr Gareth Edwards wrthi yn gweithio yno dan hyfforddiant ar hyn o bryd ac wedi ennill y Cerdyn Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu ac wedi datblygu sgiliau cyfredol yn ogystal â chael profiad o weithio ar safle treftadaeth gwerthfawr.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am gyfleoedd hyfforddi gydag Esgyn yn y dyfodol, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Thîm Esgyn ar 01495 712064.
Mae’r Cynllun MTT yn darparu cyllid cyfatebol ar gyfer cyfraniadau a wneir gan berchnogion ac yn cael ei ariannu gan y Gronfa Loteri Treftadaeth, Rhaglen Trechu Tlodi a Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, Cadw a Chyngor Sir
°¬²æAƬ.
Mae Esgyn yn Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi pobl sydd yn byw ar aelwyd lle nad oes neb yn gweithio. Mae Tredegar a Glyn Ebwy yn ffurfio un o’r nawr ardal gyflenwi ar draws Cymru. Nod y Rhaglen yw cefnogi unigolion i dderbyn hyfforddiant, profiad gwaith a chyflogaeth mewn amryw o rolau gwaith. Mae Esgyn yn darparu cymorth un i un ac yn datblygu cynlluniau gweithredu i bawb sydd yn cymryd rhan yn y rhaglen. Ers 2014, mae Esgyn yn Nhredegar a Glyn Ebwy wedi llwyddo i gefnogi mwy na 160 o bobl i fynd yn ôl i’r gwaith, 290 i dderbyn Hyfforddiant Galwedigaethol ac 128 i elwa o Brofiad Gwaith. Mae Esgyn yn gweithio gyda chyflogwyr sydd yn cynnwys Cyngor Sir °¬²æAƬ, Ymddiriedolaethau GIG lleol a Darparwyr Gofal lleol.