Mae Cyngor °¬²æAƬ yn dymuno ymgysylltu gyda phobl leol am gynigion ar gyfer arbedion ar gyfer ei Gyllideb 2017/18.
Gallwch ddweud eich barn drwy lenwi arolwg ar-lein neu drwy fynychu un o'r pedwar digwyddiad sydd ar y gweill o amgylch y fwrdeisdref sirol ym mis Tachwedd. Bydd gwybodaeth am sut y caiff y Cyngor ei gyllido a manylion y cynigion arbedion penodol a gyflwynir i bobl roi sylwadau arnynt.
Derbyniodd y Cyngor newyddion am ei setliad ariannol o Lywodraeth Cymru ac mae'n wynebu gostyngiad o 0.5% yn ei grant cymorth refeniw. Mae'r gostyngiad hwn yn cyfrannu at gyfanswm arbedion o £6 miliwn sydd angen eu gwneud.
Mae'r rhaglen ymgysylltu gyhoeddus 'Gadewch i ni Siarad' yn dechrau yng Nglynebwy ddydd Gwener 18 Tachwedd.
Y digwyddiadau galw heibio yw:
· Dydd Gwener 18 Tachwedd – 10am i 2pm, Marchnad Glynebwy
· Dydd Iau 24 Tachwedd – 10am i 2pm, Marchnad Abertyleri
· Dydd Gwener 25 Tachwedd – 10am i 2pm, Canolfan Siopa Canol Tref Tredegar (tu allan i °¬²æAƬ Bargains)
· Dydd Sadwrn 26 Tachwedd – 10am i 1pm, Marchnad Brynmawr
Bydd hefyd gyfle i lenwi arolwg ar-lein o 18 Tachwedd.
Mae rhaglen 'Gadewch i ni Siarad' yn parhau ymrwymiad y Cyngor i fod yn fwy rhagweithiol wrth ymgysylltu gyda phobl leol am yr heriau ariannol i ddod a'r penderfyniadau anodd sy'n parhau i gael eu gwneud am gyllido a darparu gwasanaethau. Bydd cynrychiolwyr y Cyngor a Chynghorwyr yn bresennol i ateb cwestiynau.
Gwneir y penderfyniad ffurfiol am arbedion gan gynghorau pan fyddant yn ystyried gosod y Gyllideb mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ym mis Ionawr.
Dywedodd David White, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol:
“Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd i gael mantolen gytbwys. Rydym yn awyddus i ganfod beth yw blaenoriaethau ein preswylwyr, fel y gallwn wneud penderfynaidau sy'n adlewyrchu anghenion y rhai sy'n byw ac yn gweitho ym Mlaenau Gwent. Fel bob amser, byddwn yn gweithio'n galed i ddiogelu gwasanaethau hanfodol a gofalu am y rhai yn ein cymunedau sydd fwyaf o angen ein help.
“Gall cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn fod mor rhwydd â llenwi'r arolwg neu fynychu un o'r digwyddiadau galw heibio a gynhelir ym mhob rhan o'r fwrdeisdref. Mae'n gyfle gwych i gymryd rhan a helpu i lunio dyfodol °¬²æAƬ.â€
I gael mynediad i'r wybodaeth a'r arolwg ar-lein ewch i www.blaenau-gwent.gov.uk a dilyn y ddolen o'r dudalen flaen. Bydd yr arolwg ar gael o 18 Tachwedd.