Fel rhan o'r fath gydweithio mae angen i ni adolygu ein polisïau i sicrhau eu bod yn deg, a, lle bo hynny'n ymarferol, yn gyson ar draws y ddau awdurdod. Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i ddatblygu nifer o bolisïau newydd.
Y polisïau sydd wrthi’n cael eu datblygu a’u hadolygu yw:
1 Trwyddedu tacsis (cerbydau, gyrwyr a gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat)
2 Masnachu ar y stryd
3 Casglu i elusennau, ar y stryd ac o dÅ· i dÅ· - polisi newydd
4 Casglwyr a’r sawl sy’n delio â metel sgrap
5 Sefydliadau rhyw (siopau, sinemâu ac adloniant) - polisi newydd
Rydym yn croesawu pob sylw ac adborth, fodd bynnag, ystyriwch y canlynol yn benodol:
· A oes agwedd ar ein gwaith trwyddedu, nad ydyw, yn eich barn chi, yn cydymffurfio â'r gyfraith neu ganllawiau statudol?
· A oes angen rheoliad trwyddedu llymach arnoch i ddiogelu eich cartref a'ch cymuned?
· A oes angen llai o reoleiddio arnoch er mwyn i'ch busnes ffynnu?
· A oes unrhyw beth yn ein polisïau trwyddedu presennol sydd angen eu gollwng yn eich barn chi?
· A oes rhywbeth ar goll o'n polisïau trwyddedu presennol?
· A oes unrhyw beth arall yr hoffech i ni ei ystyried wrth ystyried ein polisïau trwyddedu?
Dyma gam cyntaf proses barhaus fydd yn cael ei chwblhau erbyn Hydref 2018.
Mae hwn yn gyfle i drigolion a busnesau adolygu a rhoi sylwadau ar ein polisïau trwyddedu i'n helpu i sicrhau eu bod yn deg, yn atebol, yn gymesur ac yn dryloyw.
Arolwg:
https://getinvolved.torfaen.gov.uk/neighbourhoods/dweud-eich-dweud-am-bolisi-trwyddedu-yn-nhorfaen/
Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 31 Oct 2017
Gwybodaeth ychwanegol
Alison Hughes
01495 762200
alison.hughes@torfaen.gov.uk