°¬²æAƬ

Enillwyr Cystadleuaeth Addysg Aspire Lego 2021 Ysgol Gyfun Tredegar

Oherwydd y pandemig, cynhaliwyd y gystadleuaeth gan  Eden Education gydag Anelu’n Uchaf ym mhedair ysgol gyfun °¬²æAƬ gyda myfyrwyr Blwyddyn 8.

Roedd gan bob ysgol ddetholiad da o fyfyrwyr yn cymryd rhan ac fe wnaethant i gyd  fwrw ati ac roedd yn ymddangos iddynt fwynhau’r her a chystadlu yn erbyn eu cyd-fyfyrwyr!
Yn anffodus oherwydd y sefyllfa gyda Covid ac mai iechyd a diogelwch pawb oedd bwysicaf, ni fu modd i ni gynnal y rownd derfynol fel arfer ac fe wnaeth staff Canolfan Eden ac aelod o staff Anelu’n Uchel ddewis y tîm buddugol.

Er yn agos tu hwnt , y tîm buddugol a ddewiswyd oedd Ysgol Gyfun Tredegar a lwyddodd i gwblhau tair o’r heriau o fewn yr amser a ddynodwyd.

Da iawn bawb a gymerodd ran a diolch yn fawr i Ganolfan Addysg Eden, Anelu’n Uchel a’r holl ysgolion am lwyddo i gynnal y digwyddiad yn ddiogel mewn amgylchiadau mor anodd.

Llongyfarchiadau y ar enillwyr tîm gyfer 2021 – Ysgol Gyfun Tredegar.