Mae Cyngor °¬²æAƬ wedi erlyn tri o bobl yn llwyddiannus am droseddau'n gysylltiedig â gweithredu gwastraff ochr.
Cafodd yr unigolion o Flaenau Gwent eu herlyn mewn cysylltiad gyda diffyg cydymffurfiaeth â 'Pholisi Gorfodaeth Dim Gwastraff Ochr' y Cyngor. Cyflwynwyd hyn ym mis Mehefin 2018 mewn ymdrech i wella cyfraddau ailgylchu y Cyngor ac i sicrhau y caiff y targedau ailgylchu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru eu cyrraedd.
Cafodd dau unigolyn o Dredegar ddirwy o £220.000 gyda chostau o £62.50 a gordal dioddefwyr o £30.00 yr un, gyda thrydydd unigolyn, hefyd o Dredegar, yn cael dirwy o £220.00 gyda chostau o £125.00 a gordal dioddefwyr o £30.00.
Cafodd unigolion eraill Hysbysiadau Cosb Sefydlog am orfodaeth gwastraff ochr, a dalwyd cyn gweithredu Llys.
Mewn ymdrech i osgoi'r dirwyon a osodwyd gan y Llysoedd, cafodd y preswylwyr gynnig cymorth a chyngor nifer o weithiau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda pholisi'r Cyngor, ond gwnaethant ddewis peidio ei dderbyn.
Ymhellach roedd yr Hysbysiad Cosb Sefydlog gwreiddiol am £100, fodd bynnag cafodd hyn ei anwybyddu er yr anfonwyd nifer o lythyrau atgoffa at y preswylwyr. Arweiniodd hyn yn y pen draw at i'r Cyngor weithredu yn y Llys i adennill y costau.
Ers gweithredu "Polisi Gorfodaeth Dim Gwastraff Ochr" y Cyngor, dyma'r achosion cyntaf i fynd i'r Llys am beidio talu yr Hysbysiad Cosb Sefydlog a roddwyd i breswylwyr, o'r cyfanswm o 12 Hysbysiad Cosb Sefydlog a roddwyd i breswylwyr. Mae mwy o achosion yn cael eu paratoi ar gyfer dechrau trafodion Llys yn erbyn y preswylwyr hynny sydd â dirwyon heb eu talu nad ydynt wedi talu hyd yma.
Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
“Rydym yn gweithio'n barhaus gyda phreswylwyr ar sut y gallant ailgylchu yn well a'r gefnogaeth y gallwn ei ddarparu.
Cyn y gwneir unrhyw ddirwyon, bydd y Cyngor yn ymdrechu i weithio gyda cartrefi ar sut y gallant ailgylchu. Dim ond pan fetho popeth arall y rhoddir Hysbysiad Cosb Sefydlog. Ar bob achlysur roedd y deiliaid tai yn gyson yn rhoi mwy o sbwriel mas nag a a ganiateir ar gyfer pob cartref ac felly'n dangos amharodrwydd i ailgylchu.
Mae peidio ailgylchu yn effeithio ar bobl eraill yn y gymuned. Mae methiant i gyflawni'r targedau hyn mewn blynyddoedd blaenorol wedi arwain at i'r Cyngor gael cosbau ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn arian y gellid bod wedi'i ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau eraill y mae angen mawr amdanynt.
Mae gennym nifer o ymgyrchoedd yn cynnwys Cadw Lan gyda'r Joneses sy'n hysbysu preswylwyr beth fedrir ei ailgylchu, y gwasanaethau sydd ar gael ac effaith a chost peidio ailgylchu. Mae mwy o wybodaeth am yr ymgyrch hon ar gael ar wefan y Cyngor yn ogystal â sut i archebu cynwysyddion ailgylchu. Gallwch hefyd gysylltu â C2BG ar 01495 311556."