Daw'r galw i bleidleiswyr gofrestru wrth i'r Comisiwn Etholiadol lansio ymgyrch cofrestru pleidleiswyr genedlaethol er mwyn annog cynifer o bobl ag y bo modd i gofrestru cyn i etholiadau gael eu cynnal ledled y wlad eleni.
Meddai Andrea Jones, Swyddog Cofrestru Etholiadol Blaenau Gwent :
"Nid oes llawer o amser ar ôl i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau ym mis Mai, felly hoffwn annog pawb ym Mlaenau Gwent i weithredu nawr os nad ydynt wedi cofrestru i bleidleisio eisoes. Mae'r broses gofrestru'n un gyflym a hawdd ond, ar ôl y dyddiad cau, sef 13 Ebrill, bydd yn rhy hwyr.”
Meddai Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru:
“Mae ein hymchwil yn dangos bod pobl ifanc, myfyrwyr a phobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llai tebygol o fod wedi'u cofrestru i bleidleisio. Felly, os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar, sicrhewch eich bod wedi'ch cofrestru'n gywir. Os nad ydych wedi cofrestru, ni chewch ddweud eich dweud ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eich bywyd beunyddiol ym Mlaenau Gwent”
Er mwyn cofrestru i bleidleisio, ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio cyn dydd Iau 13 Ebrill.