°¬²æAƬ

Gorfodaeth Parcio Sifil yn dychwelyd yr wythnos nesaf

Bydd Gorfodaeth Parcio Sifil yn dechrau eto ym Mlaenau Gwent yr wythnos nesaf ar ôl cael ei ohirio yn ystod pandemig Covid-19. O ddydd Llun (20 Gorffennaf) bydd ein swyddogion gorfodaeth traffig yn canolbwyntio unwaith eto ar ganol trefi ac ardaloedd blaenoriaeth eraill wrth i lacio’r cyfyngiadau symud ac ail-agor busnesau olygu bod mwy o gerbydau ar y ffyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylched:

“Mae gweithredu cyfyngiadau parcio yn ein helpu i lacio tagfeydd ar ein ffyrdd, hyrwyddo diogelwch ffyrdd – yn arbennig yn agos at ysgolion pan maent ar agor – ac yn helpu i gynnal mynediad ar gyfer cerbydau argyfwng. Rydym yn symud yn ofalus allan o’r cyfnod clo a gyda chymeradwyaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru rydym yn dechrau ailgyflwyno rhai gwasanaethau pwysig yn araf a gafodd eu gohirio oherwydd Covid-19 a’r angen i ganolbwyntio ar feysydd mwy hanfodol o waith.

“Hoffem atgoffa modurwyr °¬²æAƬ i barhau i fod yn ystyriol wrth barcio, fel y gallwn gydweithio i gadw ein cymunedau yn ddiogel a hefyd i osgoi unrhyw ddirwyon diangen.â€

I gael mwy o wybodaeth am Orfodaeth Parcio Sifil a Hysbysiadau Taliadau Cost Parcio ewch i -  -  /en/resident/civil-parking-enforcement/