Mae’r awdurdod lleol wedi galw prosiect £29m i ddod â mwy na 1250 o gartrefi y mae eu mawr angen i Glynebwy yn “ddatblygiad newydd cyffrous”.
Mae Persimmon °¬˛ćAƬs, un o gwmnĂŻau adeiladu tai mwyaf Prydain, wedi dechrau gwaith ar 277 tĹ· ar hen safle Ysgol Gyfun a Choleg Glynebwy.
Enw’r datblygiad ar Heol Waun-y-Pound fydd Carn y Cefn a bydd yn cynnwys tai dwy, tair a phedair ystafell wely.
Bydd cyfanswm o 55 o’r cartrefi ar gael ar rent cymdeithasol gan gymdeithas tai United Welsh ar gyfer darpar denantiaid sydd ar Restr Tai Gyffredin °¬˛ćAƬ.
Yn ogystal â darparu cartrefi y mae angen dybryd amdanynt yn yr ardal, bydd y datblygiad yn creu mwy na 200 o swyddi dros y cyfnod adeiladu o bum mlynedd, yn ogystal â rhoi hwb o £7m y flwyddyn i’r economi lleol.
Cytunodd Persimmon i gyfrannu ÂŁ783,354 tuag at ddarpariaeth addysg, a gaiff ei rannu rhwng Ysgolion Cynradd Glyncoed a Willowtown.
Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd: “Rwyf yn wirioneddol falch fod y gwaith wedi dechrau ar y datblygiad newydd cyffrous hwn. Mae hyn yn enghraifft ragorol o sut y gall gweithio mewn partneriaeth fod o fudd i gymunedau a’r economi lleol, gan alluogi pobl i brynu eu cartref cyntaf a hefyd greu llawer o gyfleoedd hyfforddii a swyddi ychwanegol.”
Dywedodd Bethan McPherson, Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig: “Mae perthynas waith gref gydag un o’n partneriaid datblygu allweddol, United Welsh, ynghyd ag ymrwymiad cadarn i gyflawni, wedi’n galluogi i ddenu cwmni adeiladu tai mawr i Flaenau Gwent, gan ddarparu cartrefi ar y farchnad agored a chynyddu ein cynnig tai cyffredinol i breswylwyr lleol a’r rhai sy’n dymuno symud i’r ardal.”
Dywedodd Lynn Morgan, Cyfarwyddwr Datblygu ac Adfywio United Welsh: “Mae’n wych gweld gwaith yn dechrau ar y safle yng Nglynebwy. Bydd cael cartrefi ar gael ar rent gymdeithasol yn natblygiad Carn y Cefn yn fanteisiol i’r ardal a’i phreswylwyr a hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru.
“Mae creu cymunedau llawn o gartrefi fforddiadwy, ansawdd uchel yn flaenoriaeth allweddol i United Welsh ac mae’r datblygiad hwn yn gam enfawr tuag at hynny. Edrychwn ymlaen at weld y cartrefi yn dod yn fyw.”
Mae mwy na 1,000 o bobl wedi dangos diddordeb yng nghartrefi Carn y Cefn, fydd yn mynd ar werth ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr, gyda disgwyl i’r preswylwyr cyntaf yn symud i mewn yn y gwanwyn neu haf y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Liam Scott, Cyfarwyddwr Adrannol Rhanbarthol Persimmon °¬˛ćAƬs: “Rydym yn hynod falch i fod yn symud ymlaen gyda’r datblygiad sylweddol hwn yng Nglynebwy.
Cafodd y datblygiad hwn ei wneud yn bosibl drwy gydweithio cryf gan nifer o randdeiliaid, nid yn lleiaf gyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ.
“Mae’r buddion sy’n gysylltiedig gyda’r datblygiad preswyl wedi eu profi ac yn amlwg.
“Ond mae manteision adfywio datblygu’r safle hwn yn ymestyn tu hwnt i’r ffactorau economaidd a bydd yn rhoi gwaddol gymdeithasol ac amgylcheddol barhaol. Edrychwn ymlaen at weld cymuned newydd yn dod i’r amlwg.”
Gall pobl gofrestru diddordeb yn y cartrefi drwy ffonio 01495 364 202 neu ymweld â
www.persimmonhomes.com