Bydd Cyngor °¬²æAƬ yn rhoi dynodiad swyddogol i bum Gwarchodfa Natur Leol newydd yn y fwrdeistref sirol.
Cafodd y safleoedd newydd eu cymeradwyo heddiw gan y Pwyllgor Gweithredol, gan gydnabod eu bod yn bwysig i bobl a hefyd natur.
Y safleoedd yw:
• Llynnoedd a Choetiroedd Rhiw Beaufort
• Cwm Canolog, Glynebwy
• Dinas Gardd, Glynebwy
• Parc Bryn Bach, Tredegar
• Coetiroedd Rhiw Sirhywi, Tredegar
Mae ymrwymiad yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor i wella mynediad i ac ansawdd gofodau agored er budd ein cymunedau, busnesau ac ymwelwyr. Drwy Gynllun Llesiant °¬²æAƬ mae’r Cyngor hefyd wedi ymroi i ofalu am a gwarchod yr amgylchedd, ac annog a galluogi pobl i wneud dewisiadau ffordd o fyw iach yn y mannau lle maent yn byw, dysgu, gweithio a chwarae.
Drwy ddynodi a datgan pump Gwarchodfa Natur Leol arall, mae’r Cyngor yn gweithredu yn unol â’r Blaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem (2019-2022), i gyflawni ei ddyletswydd dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016 a chynyddu ei gyfraniadau i’r Nodau Llesiant i’r eithaf.
Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
“Rwy’n hynod falch i ni fedru dynodi pump safle newydd fel Gwarchodfeydd Natur Lleol. Mae gennym ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yma ym Mlaenau Gwent, sy’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt, cynefinoedd a systemau eco, ac mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y rhain ac yn gofalu amdanynt i bawb eu mwynhau. Byddwn yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid a grwpiau cymunedol brwdfrydig i sicrhau cadwraeth yr ardaloedd pwysig hyn er budd cenedlaethau’r dyfodol.â€
Nodyn:
Mae Gwarchodfa Natur Leol yn:
• Safle biolegol amrywiol, lle mae nodweddion presennol a rheolaeth wybodus yn cyfuno i gynyddu gwerth y safle i’r eithaf ar gyfer cadwraeth natur
• Safle y gall pob aelod o’r gymuned ei defnyddio a’i mwynhau
• Safle sy’n falch i gadw ei hymdeimlad o hanes, ar yr un pryd â chynnig posibiliadau newydd fel ffocws ar gyfer y gymuned yn yr ardal leol
• Safle sy’n helpu i ddatblygu ymdeimlad o’r warchodfa fel lle arbennig, o werth mawr i’r ardal leol a’r rhanbarth yn ehangach.