Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ, gan weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Linc Cymru, Y Prentis a'r datblygwyr tai Pendragon, yn cadw at yr amserlen i ddarparu 72 o gartrefi newydd yng Ngwaun Helyg, Hilltop, Glynebwy. Mae'r datblygiad yn derbyn grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i tharged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.
Mae'r anheddau a gynigir yn gyfuniad o fflatiau un ystafell wely a thair dwy a thair ystafell wely, sy'n cynnwys pedwar tĹ· wedi'u haddasu a gynlluniwyd yn benodol i helpu tenantiaid sicrhau annibyniaeth bersonol, gwella llesiant ac ansawdd bywyd. Y cartrefi wedi'u haddasu yw'r anheddau tai cymdeithasol cyntaf ym Mhrydain i gynnwys system gwahanfuriau hoist Guldman. Mae'r nodwedd arloesol yma angen llai o waith strwythurol a chafodd ei gynllunio i godi a symud pobl yn llyfn drwy ystafelloedd lluosog, gan felly roi mwy o ryddid symudiad i'r preswylwyr. 'Cyntaf' arall yw'r gofod byw 'cynhwysol' cynllun agored ym mhob annedd a addaswyd, sy'n ei gwneud yn bosibl addasu'r llawr daear i weddu anghenion byw unigol. Mae'r holl gartrefi hefyd yn darparu ar gyfer y dyfodol fel y gellid addasu'r anheddau i ateb eu hanghenion os yw eu hanghenion yn newid.
Dywedodd Alex Johansen, Cydlynydd Dylunio ac Adeiladu Pendraon:
“Bu datblygiad Gwaun Helyg yn llwyddiant enfawr i ni, nid yn unig yn nhermau gorffeniad ac apêl yr anheddau, ond hefyd y cydweithio a fu rhwng yr holl bartneriaid.”
Bydd cyfanswm o bedwar cam i ddatblygiad Gwaun Helyg, gyda dau ohonynt eisoes wedi gorffen:
Pedwar Cam Datblygu | ||
Cam | Nifer unedau tai | Dyddiad trosglwyddo |
1 | 13 | Wedi cwblhau |
2 | 13 | Wedi cwblhau |
3 | 21 | Unedau cyntaf - Rhagfyr 2018 |
3 | 25 | Unedau cyntaf - Mehefin 2020 |
Prynwyd y safle yn Ă´l yn 2008 a bryd hynny roedd 221 o bobl wedi cofrestru ar restr tai °¬˛ćAƬ. Dywedodd Andrew Beale, Rheolwr Prosiect gyda Linc:
“Bydd y 72 cartref newydd yr ydym wedi'i hadeiladu gyda help ein partneriaid datblygu yn cyfrannu'n sylweddol at ostwng nifer y bobl a'r teuluoedd sy'n aros ar y gofrestr tai. Bydd y pedwar cartref wedi'u haddasu, y gellir ei newid a'u teilwra'n bwrpasol i anghenion unigol, yn gwneud gwahaniaeth ar unwaith i ansawdd bywyd y bobl sy'n byw ynddynt”.
Mae Linc hefyd yn ymwneud â nifer o safleoedd eraill o fewn °¬˛ćAƬ, megis Heol y Coleg (ger Cartref Gofal Llys Glyncoed) lle caiff 33 o gartrefi newydd eu hadeiladu. Drwyddi draw bydd Linc wedi bod a byddant yn ymwneud yn uniongyrchol â darparu 145 o gartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu rhwng 2015-2020.
Yn ogystal â'r uchod, yn y dyfodol agos bydd Linc a Pendragon - gan weithio mewn cysylltiad gyda Y Prentis a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ - yn recriwtio tri o brentisiaid eraill i weithio ar y safle yn y dyfodol agos. Bydd hyn yn sicrhau y gellir darparu cyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a phrofiad gwaith ar lefel leol.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Summers:
“Ar ôl cwrdd â'n partneriaid am ddatblygiad Gwaun Helyg ac ymweld â'r safle yn ddiweddar, mae'n galonogol gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud. Mae llawer o'r unedau yn cynnwys nodweddion sy'n newydd ar gyfer tai cymdeithasol ym Mhrydain, a bydd sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol yn sicrhau y bydd y nodweddion yn parhau ar gyfer y cenedlaethau sy'n dilyn.”