°¬²æAƬ

Gweinidog Addysg yn agor Campws Six Bells

Cafodd Campws Cynradd Six Bells newydd £8 miliwn yn Abertyleri ei agor heddiw gan Kirsty Williams AC, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru.

Mae'r campws yn rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri, a'r ail ysgol bob oed 3-16 i'w hagor ym Mlaenau Gwent. Mae Campws Six Bells yn cynnig cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf ar gyfer plant lleol ac yn ganlyniad gwaith partneriaeth rhwng Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a'r Cyngor ac mae'n cymryd lle dau adeilad ysgol a godwyd yn wreiddiol yn oes Victoria.

Mae'r ysgol wedi'i lleoli yng nghwm Six Bells ar safle'r hen lofa, dan lygad gofalus cofeb The Guardian. Mae eleni'n nodi 60ain mlwyddiant y tanchwa dan ddaear a laddodd 45 o ddynion lleol. Mae cerflun grymus 20m Stebastien Boysen yn deyrnged i'r glowyr ac yn cyfleu'r golled a'r gobaith ar gyfer y dyfodol.

Cyfarchwyd y Gweinidog gan y Cyng Mandy Moore, Cadeirydd Cyngor °¬²æAƬ; Bryan Davies, Cadeirydd y Llywodraethwyr; y Cyng Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg; Michelle Morris, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor °¬²æAƬ a Lynette Jones, Cyfarwyddwr Addysg.

Aed wedyn â hi ar daith o amgylch y campws gan y Pennaeth Meryl Echeverry a Louisa Tudge, Arweinydd y Cyfnod Cynradd, cyn clywed perfformiad cerddorol gan ddisgyblion a ganodd 'We are the Young' a Salm 23 - Yr Arglwydd yw fy Mugail. Gwnaeth y Gweinidog araith cyn dadorchuddio plac coffa yng nghyntedd yr ysgol.

Cafwyd areithiau hefyd gan y Cyng Joanne Collins, Aelod Gweithredol y Cyngor; Lynette Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Meryl Echeverry, Pennaeth Cymuned Ddysgu Abertyleri.
Cyflwynodd disgyblion o'r Gymuned Ddysgu anrhegion i'r Gweinidog - teilsen seramig yn darlunio cofeb The Guardian a wnaed gan ddisgybl Blwyddyn 6 a thusw o flodau cartref gan y Cyfnod Sylfaen.

Dywedodd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg:

"Roedd yn bleser ymweld heddiw a gweld drosof fy hun y gwahaniaeth y mae'r ysgol newydd yn ei wneud i ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd Six Bells. Rydym yn buddsoddi yn ein stad ysgol drwy ein rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif fel bod gan ddisgyblion safleoedd lle medrant fwynhau eu blynyddoedd addysg gynradd mewn amgylchedd sy'n creu cyfleoedd gwell ar gyfer dysgu a llesiant. Bu'n wirioneddol yn ymdrech tîm a dylai'r awdurdod lleol, y gymuned a'r staff dygn fod yn falch o'r amgylchedd dysgu ysbrydoledig y maent wedi'i greu yma yn Six Bells."

Dywedodd y Cyng Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor °¬²æAƬ:

"Roeddem wrth ein bodd i groesawu'r Gweinidog Addysg i Flaenau Gwent ac i Six Bells heddiw i weld ein campws newydd. Mae hwn yn amgylchedd dysgu 21ain ganrif gwych ac egnïol ac rwy'n falch i ni fedru gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru er mwyn darparu hyn ar gyfer plant yr ardal. Rydym yn ymroddedig i weithio'n agos gyda Chymuned Ddysgu Abertyleri a'n holl bartneriaid fel y gallwn godi safonau ac uchelgais ar gyfer holl ddysgwyr Abertyleri a rhoi'r dechrau addysgol gorau posibl iddynt mewn bywyd."

Dywedodd Meryl Echeverry, Pennaeth Cymuned Ddysgu Abertyleri:

"Rwy'n falch tu hwnt i fod yn arweinydd Cymuned Ddysgu Abertyleri a welodd addysg gynradd ac uwchradd yn dod ynghyd i sicrhau cynnydd a chyflawniad rhagorol mewn dysgu ar gyfer pob disgybl. Rwy'n arwain tîm o weithwyr proffesiynol cryf, ymroddedig ac ymrwymedig sy'n sicrhau fod yr holl ddysgwyr yn cael mynediad i addysg o'r safon uchaf. Mae'r weledigaeth ar gyfer system addysg pob oed yn gyffrous a hefyd yn arwain y sector, gan baratoi ein dysgwyr ar gyfer y byd modern, a'u galluogi i fod yn ddinasyddion hyderus, galluog ac uchelgeisiol y dyfodol."

Daeth y Gymuned Ddysgu â phump ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd ynghyd i ddechrau dan un sefydliad newydd, ond wedi'u cadw ar gampysau gwahanol. Mae'r adeilad diweddaraf hwn wedi uno dwy o'r ysgolion cynradd hynny i gampws newydd Six Bells gyda lleoedd ar gyfer 360 o ddisgyblion, yn cynnwys meithrinfa.