Mae Kirsty Williams, Gweinidog Llywodraeth Cymru, wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Trehelyg yng Nglynebwy i lansio adnoddau GoConstruct Addysgu, sy'n cyflwyno'r diwydiant adeiladu i'r cwricwlwm ysgol mewn ymgais i gael mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa mewn adeiladu yn y dyfodol.
Mae rhaglen GoConstruct Addysgu yn brosiect a gyllidir gan Fwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu (CITB) a ddyfarnwyd i'r contractwr adeiladu mawr Bouygues UK. Mae CITB a Bouygues wedi gweithio gyda chonsortiwm o bartneriaid o'r diwydiant adeiladu, y sector addysg, Gyrfa Cymru a chwmni technoleg dysgu Aspire 2 Be i ddatblygu'r adnoddau fydd ar gael i bob ysgol, athro a disgybl ar draws Cymru rhwng 5 a 16 oed.
Bydd adnoddau GoConstruct Addysgu yn cynnwys sgiliau rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol ac mae darpariaeth hefyd ar gael ar gyfer Bagloriaeth Cymru ac addysg amgen. Caiff athrawon gyfres o brosiectau dysgu mewn cyd-destun sy'n cynnwys trosolwg ar gyfer pob prosiect, ynghyd â set o gynlluniau gwersi dilynol ac adnoddau rhyngweithiol niferus i'w defnyddio gyda phob grŵp blwyddyn.
Bydd yr adnoddau i gyd ar gael ar Hwb, y llwyfan addysg ar-lein sydd ar gael i bob un o'r 1456 ysgol yng Nghymru. Yn ogystal â GoConstruct Addysgu, elfennau eraill GoConstruct yw Profiad - lle mae myfyrwyr yn defnyddio gêm boblogaidd Minecraft i ddysgu am adeiladu a chynllunio; a GoConstruct Ymgysylltu - lle bydd gweithwyr adeiladu proffesiynol mewn ystod eang o swyddi a busnesau yn ymweld ag ysgolion i siarad am eu llwybr gyrfa. Mae GoConstruct Ymgysylltu yn cysylltu gyda'r ddau brosiect i alluogi arbenigwyr y diwydiant i fynd i ysgolion a dod â'r adnoddau yn fyw.
Wrth lansio'r adnoddau dywedodd Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg:
"Rwy'n ddiolchgar i'r CITB a'u partneriaid am lansio adnoddau GoConstruct - Profiad, Addysgu ac Ymgysylltu. Bydd eu defnyddio o fewn yr ystafell ddosbarth ac fel rhan o brofiad gwaith yn helpu ysgolion i adnabod a defnyddio'r cyfleoedd y gall y sector adeiladu eu cynnig i'n dysgwyr."
Dywedodd Sarah Beale, Prif Weithredwr CITB: "Mae CITB yn falch iawn i fod wedi ariannu a cyd-ddatblygu GoConstruct Addysgu mewn cysylltiad â Bouygues UK a chonsortiwm o bartneriaid diwydiant.
"Mae'r rhaglen yn garreg filltir mewn addysg yng Nghymru. Mae'n golygu y bydd modiwlau adeiladu yn rhan o gwricwlwm Cymru am y tro cyntaf. Bydd GoConstruct Addysgu yn gwneud addysgu adeiladu yn fodern, llawn gwybodaeth a hwyl i bawb. Bydd yn golygu fod bechgyn, merched, athrawon a rhieni yng Nghymru yn rhoi ystyriaeth lawn i'r amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa mewn adeiladu gan felly helpu diwydiant gyda'r heriau sgiliau sy'n ei wynebu."
Dangosodd disgyblion yn Ysgol Gynradd Trehelyg i’r Gweinidog sut y buont yn defnyddio rhai o adnoddau GoConstruct Addysgu i’w helpu yn y dosbarth yn cynnwys codi pont a defnyddio Minecraft i gynllunio adeilad.
Dywedodd Emma Thomas, Pennaeth gweithredol Ysgol Gynradd Trehelyg:
“Rydym wrth ein bodd fod GoConstruct Addysgu yn cael ei lansio yn ein hysgol. Rydym yn falch i fod yn ysgol rhwydwaith dysgu STEM a sicrhau fod ffocws cyfoethog mewn STEM yn ganolog i’n holl bynciau. Rydym eisiau darparu ein dysgwyr ar gyfer y dyfodol a rhoi’r sgiliau iddynt fydd yn eu helpu i lwyddo.
“Mae cymryd rhan ym mhrosiect GoConstruct Addysgu yn hollol gydnaws gyda’n hethos STEM. Fe wnaethom gynnal prosiect GoConstruct Addysgu yn llwyddiannus ar draws yr ysgol y llynedd a’i gael yn ffordd ragorol i ymgysylltu gyda’r cwricwlwm newydd. Mae’r adnoddau yn glir a manwl i athrawon eu defnyddio ac yn bwrpasol a rhyngweithiol ar gyfer y plant.â€
Dywedodd Julie Timothy, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Bouygues UK Cymru a De Orllewin Lloegr:
"Un o nodau busnes creiddiol Bouygues UK yw dangos pa mor amrywiol a deinamig yw'r diwydiant adeiladu er mwyn llanw prinder cynyddol mewn sgiliau a sicrhau fod y diwydiant wedi meithrin cronfa dalent ar gyfer y twf a ragwelir yn y dyfodol.Mae GoConstruct Addysgu yn rhoi cyfle gwych i ni gyflawni rhai o'r nodau hyn drwy gyflwyno plant i adeiladu o oedran ifanc a newid camsyniadau am y diwydiant yn gyffredinol. Mae cynifer o lwybrau gyrfa a chyfleoedd o fewn y sector - yn cynnwys 2,000 o wahanol fathau o swyddi - ac eto nid yw'n rhywbeth mae disgyblion yn clywed amdano yn aml yn ystod oriau ysgol.
"I hynny o beth, rydym eisiau gwneud yn siŵr fod y cynlluniau gwersi a phrosiectau yn gynyddol, hylaw ac yn bennaf oll yn cysylltu'n llyfn gyda'r cwricwlwm newydd, gan ei gwneud mor rhwydd ag sydd modd i athrawon ennyn diddordeb eu myfyrwyr.Mae Bouygues UK yn falch iawn i ddod â GoConstruct Addysgu i ysgolion ledled Cymru, a gyda'r lansiad swyddogol yn y dyfodol agos, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ei effaith ar ddiwydiant adeiladu Cymru am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Simon Pridham, Partner Addysg a Pherfformiad yn Aspire2Be:
"Mae'r buddsoddiad a neilltuodd CITB i GoConstuct Profiad, Addysgu ac Ymgysylltu yng Nghymru yn wych, mae hyn yn wirioneddol yn newid pethau ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Fel cyn bennaeth ysgol a chynghorydd i'r Llywodraeth, byddwn wedi bod wrth fy modd pe byddai'r adnoddau a'r cyfleoedd hyn wedi bod ar gael nifer o flynyddoedd yn ôl pan oeddwn yn arwain ysgol."
Bu Aspire2Be yn gweithio mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru i sicrhau fod cynlluniau gwersi GoConstruct ac unrhyw adnoddau a ddefnyddir yn gydnaws gyda'r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y caiff pob modiwl ei integreiddio mewn gwahanol bynciau ysgol i fod yn gydnaws gyda Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg (STEAM) a bydd yn cwmpasu'r Chwe Maes Dysgu a'r Pedwar Diben.
Cyn ei lansiad swyddogol, gwahoddwyd plant ysgol o bob rhan o Gymru i brofi tri phrosiect GoConstruct mewn digwyddiad 'Adeiladathon' yng Ngholeg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, Parc y Scarlets yn Llanelli a Gerddi Sophia, Caerdydd. Cafodd y disgyblion swyddi fel rheolwyr prosiect, penseiri a rheolwyr adeiladu a gofynnwyd iddynt gynllunio ac adeiladu pentref i ddilynwyr rygbi neu griced yn defnyddio Minecraft. Bu Rupert Moon, cyn chwaraewr rygbi Cymru, hefyd yn bresennol yn y digwyddiadau i siarad gyda'r plant am bwysigrwydd profi gwahanol yrfaoedd o oedran ifanc.