°¬˛ćAƬ

Hwb cyllid ar gyfer cerbydau trydan

Yn gynharach eleni, ynghyd gyda'i gymdogion yng Ngwent, dyfarnwyd cyfran o ÂŁ459,000 o gyllid i Gyngor °¬˛ćAƬ o Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddechrau datblygu'r seilwaith ar gyfer cerbydau'r dyfodol. Caiff cyfanswm o tua 67 man gwefru cyflym eu gosod ar draws Gwent.

Cafodd cynnig ar y cyd ei lunio gan yr awdurdod ynghyd â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a chafodd ei gyflwyno gan Gyngor °¬˛ćAƬ. Mae'r prosiect hefyd wedi cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru a gyllidodd astudiaeth ddichonolrwydd.

Ym Mlaenau Gwent caiff mannau gwefru eu gosod mewn meysydd parcio yn:

• Collier’s Row, Glynebwy
• Stryd Brenin/Worcester, Brynmawr
• Stryd Fawr, Blaenau
• Canolfan Chwaraeon Abertyleri

Mae Silverstone Green Energy eisoes wedi dechrau gweithio yng Nglynebwy ac Abertyleri, a disgwylir y bydd yr holl fannau gwefru ar gael i breswylwyr eu defnyddio erbyn mis Ebrill.

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor °¬˛ćAƬ:

"Bydd y prosiect hwn yn helpu i sefydlu seilwaith ledled Gwent i roi cyfleoedd i breswylwyr yrru cerbydau trydan yn y dyfodol. Ar y cyd gyda'n partneriaid allweddol rydym yn ymroddedig i helpu gwarchod yr amgylchedd drwy gefnogi ynni adnewyddadwy a gostwng ein hĂ´l-troed carbon."